Proses Cymeradwyo ar gyfer Etholiad Llywydd UMCA

Pasiwyd gan: Y Senedd

Pasiwyd ar: 24/11/2025

Statws: Rydym yn gweithio arno


Crynodeb: 

Sefydlu proses cymeradwyo ar gyfer ymgeiswyr Llywydd UMCA er mwyn diogelu llais aelodau UMCA.

Manylion

Un o’m blaenoriaethau i fel swyddog yw sefydlu cyfansoddiad ar gyfer Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA), yn ogystal â llunio is-ddeddf ar gyfer Undeb Aber ar UMCA a’i weithredoedd o fewn yr Undeb. Holl ddiben UMCA yw bod yn lais dros myfyrwyr Cymraeg, ond yn unol â Deddf Elusennau 2011, nid myfyrwyr Cymraeg yn unig a all bleidleisio ar gyfer eu Llywydd. Er ein bod ni’n llwyr cydnabod y cyfraith hwnnw, mae tyndra cymhleth yn y ffaith nad aelodau UMCA yn unig sy’n ethol rôl eu Llywydd a hynny mewn etholaeth lle mae myfyrwyr Cymraeg yn leiafrif. Cynigwn felly bod proses yn cael sefydlu sy’n gwarchod lleisiau aelodau UMCA wrth ethol eu Llywydd. Bydd y broses yn cynnig cyfle i ymgeiswyr gyfarfod gyda’r Pwyllgor Craidd (Llywydd, Is-lywydd, Cadeirydd, Ysgrifennydd) mewn proses cymeradwyo. Nid diben y broses hwn fydd eithrio unrhyw un rhag sefyll am y rôl ac os yn yr achos prin y bydd ymgeisydd yn cael ei wrthod, bydd galw ar y Pwyllgor Craidd i roi cyfiawnhad rhesymegol ar y penderfyniad hwnnw. Yn hytrach, y bwriad yw gosod fframwaith sy’n sicrhau bod gwerthoedd ac anghenion UMCA yn cael eu cynrychioli gan ymgeiswyr.

 

Cyflwynwyd gan: Nanw Maelor Hampson


Diweddariadau

Camau a gymerwyd Enw a Rôl Dyddiad
     

Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn.

    

Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth

Ash Sturrock

ais13@aber.ac.uk

llaisum@aber.ac.uk

Diwylliant Cymreig a UMCA

Nanw Maelor

cymraegum@aber.ac.uk

 

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576