Pasiwyd gan: Y Senedd
Pasiwyd ar: 24/04/2023
Yn darfod ar: 24/04/2026
Statws: Cyflawnwyd
Swyddog sy'n gyfrifol: Llywydd Undeb
Manylion
Eleni, fe gynhaliwyd Wythnos SHAG fel rhan flaenoriaethau’r Llywydd. Gwelwyd nifer dda o bobl yn dod I'r digwyddiadau a chawsom adborth arbennig. Cawsom hefyd rai adborth negatif gyda rhai myfyrwyr yn mynegi nad oeddent yn hapus y cynhaliwyd yr wythnos hon.
Nod yr wythnos hon yw magu perthynas iach tuag at ryw os ydych chi am ei gael neu beidio ac i gadw’n ddiogel wrth ei wneud neu’n trio pethau newydd.
Oherwydd yr adborth negatif hwn, rydym am glywed barn y myfyrwyr. Rydym eisiau gwybod ai digwyddiad defnyddiol a hwyl yr hoffai myfyrwyr ei weld bob blwyddyn, gan ei ddatblygu yn fwy bob tro, neu ai digwyddiad untro ddylai fod.
Dysgu mwy am yr Wythnos SHAG 2022 yma: https://www.umaber.co.uk/newidaber/ymgyrchoedd/wythnosshag/
Cyflwynwyd gan: Aisleen Sturrock
Diweddariadau
Camau a gymerwyd |
Enw a Rôl |
Dyddiad |
Mae'r polisi hwn yn cael ei weithio trwy ymgyrch. Edrychwch ar dudalen yr ymgyrch yma. |
Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth |
Tachwedd 2023 |
Roedd ein hwythnos SHAG eleni yn canolbwyntio ar ddychwelyd at y pethau sylfaenol, gan sicrhau bod gan bawb ddealltwriaeth dda o ryw diogel a chydsyniol. Roeddem yn dal i gadw ein ffefrynnau cymunedol o'n Gweithdy Cliterarty a'n gweithdy Kink Safety. |
Helen (Llesiant 2023-2024) |
Tachwedd 2023 |
Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn.