Pasiwyd gan: Y Senedd
Pasiwyd ar: 30/04/2025
Yn darfod ar: 30/04/2028
Statws: Rydym yn gweithio arno
Manylion
Mae rhaid i Undeb Aberystwyth ymrwymo i bolisïau sy’n amddiffyn ac yn cefnogi myfyrwyr traws, rhyngrywiol, ac anghydffurfiol eu rhywedd trwy ddadlau o’u blaid, iaith gynhwysol, a gwrthsefyll arferion sy’n gwrthod eraill.
Ebrill 16, 2025, cynhaliodd Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig ddiffiniad biolegol o ‘ryw’ a geir yn y Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gan barhau â’r gwahanu yn erbyn unigolion traws, rhyngrywiol, ac anghydffurfiol eu rhywedd. Mae’r dyfarniad hwn yn peri pryder mawr i’n cymuned a’n cyfeillion. Fel Undeb, rydyn ni wedi ymrwymo i feithrin awyrgylch croesawus a chynhwysol lle mae pawb yn teimlo’n saff. Rydyn ni’n sefyll gyda’n ffrindiau LDHTC+ a’u cefnogwyr, gan ailddatgan ein cefnogaeth a’n hymrwymiad i degwch. Mae penderfyniad hwn yn amlygu dyfodol ansicr i unigolion LDHTC+, sy’n golygu fod yr ymrwymiad presennol i gynwysoldeb yn bwysicach nag erioed.
Mae ein Undeb y Myfyrwyr yn credu na ddylai hunaniaeth rhyweddol gael ei ddiffinio gan ryw biolegol a chynnal diffiniad cynhwysol o rywedd, gan gydnabod a pharchu myfyrwyr traws a hunanddiffinio ymhob agwedd ar weithgarwch Undeb y Myfyrwyr.
Bydd Undeb Aberystwyth yn:
- Ymladd dros hawliau pobl draws a rhyngrywiol - ymgyrchu’n uniongyrchol, a chefnogi ein haelodaeth i ymgyrchu ar lefel leol a chenedlaethol i newid y dyfarniad.
- Hyrwyddo ac annog defnydd o ddiffiniad mwy cynhwysol o rywedd yn lleol ac yn genedlaethol. Ymgyrchu dros fabwysiadu polisïau cynhwysol llawn sy’n cofleidio pob rhywedd a mynegiant hunaniaeth ymysg sefydliadau.
- Gwrthsefyll unrhyw weithredu o reolau yn ymwneud â rhywedd nad ydynt yn gynhwysol tuag at bobl draws a rhyngrywiol.
- Cydnabod y niwed meddyliol a chorfforol a ddaw i’n haelodaeth yn sgil y dyfarniad hwn. Byddwn yn weithredol wrth gefnogi myfyrwyr traws a rhyngrywiol i droi at gymorth.
- Cydnabod y gorflinder a’r gofid a ddaw trwy ymgyrchu dros eich hawliau eich hun a bod gan yr Undeb ran uniongyrchol i ymgyrchu dros newidiadau a fydd o fudd i’n haelodaeth tra’n grymuso’r myfyrwyr y mae’n cael effaith arnynt i ymgyrchu yn ôl eu dewis.
Allwn ni byth fod yn ddifater tuag at yr hawliau sydd gennym.
Cyflwynwyd gan: Emily Morgan
Diweddariadau
| Camau a gymerwyd |
Enw a Rôl |
Dyddiad |
| |
|
|
| |
|
|
Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn.