Pasiwyd gan:Y Cyfarfod Mawr
Pasiwyd ar: 09/03/2026
Yn darfod ar: 09/03/2029
Statws: Rydym yn gweithio arno
Crynodeb
Rydym am gyflwyno Siarter Amddiffyn Anghytuno Amnesty y Deyrnas Unedig i gyfansoddiad Undeb y Myfyrwyr er mwyn amddiffyn rhyddid academaidd, rhyddid barn, a’r hawl i brotestio.
Manylion
Rydym yn gobeithio mynd i’r afael â’r materion ynghylch rhyddid barn, yr hawl i brotestio, a rhyddid academaidd ar y campws gan wneud Siarter Amddiffyn Anghytuno Amnesty y Deyrnas Unedig yn rhan o gyfansoddiad Undeb y Myfyrwyr. Yn y siarter hon, ceir gofynion â’r nod o gyflawni’r canlynol: sicrhau rhyddid mynegiant ac ymgynnull, cael gwared ar reolau protestio rhwystrol, rhoi terfyn ar gam-drin camau disgyblu, rhoi terfyn ar ffyrdd busneslyd o fonitro a rhannu data, osgoi gwahaniaethu, herio islamoffobia a gwrth-semitiaeth, bod yn glir ac yn atebol, creu trefn annibynnol ar gyfer atebolrwydd, sefydlu gwasanaethau priodol i fyfyrwyr mewn perygl, a gweithredu pan fo rhyddid barn yn y fantol. Trwy fabwysiadu y Siarter Amddiffyn Anghytuno, bydd Undeb Aber yn lleihau’r risgiau sensro posibl a bydd yn atebol i’r corff myfyrwyr yn achos argyfwng neu sensro.
Cyflwynwyd gan: Samuel McCarthy Vicente
Diweddariadau
| Camau a gymerwyd |
Enw a Rôl |
Dyddiad |
| |
|
|
| |
|
|
Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn.