Pasiwyd gan: Y Senedd
Pasiwyd ar: 30/04/2025
Yn darfod ar: 30/04/2028
Statws: Rydym yn gweithio arno
Manylion
Mae’r safle hanesyddol hwn a sefydlwyd yn wreiddiol ym 1950, wedi bod o fudd i fyfyrwyr ac ymchwil ers dros 70 mlynedd. ynghynt bu cydweithio rhwng y gerddi botaneg ag ystod o erddi botaneg enwog iawn ar draws y byd. Yn anffodus, ers colli aelod staff parhaol mae wedi dechrau mynd yn galed ar y lle ac yn cael ei ddefnyddio yn llai.
Nid yw’r lle yn cael ei ariannu’n ddigonol ac yn prysur fynd i angof er ei fod yn gartref i nifer o blanhigion hardd a difyr a’i fod â photensial amhrisiadwy ar gyfer dysgu, ymchwil, bywyd myfyriwr, a llwyth o fanteision eraill er lles pobl. Mae'r lle wedi'i rannu'n bedair ardal: sied botio (gyda chyfrifiadur, sinc, tegell a llawer o botiau), ystafell sych (cartref i blanhigion anialwch, gyda digon o le i tua 30 stôlyn – sydd i'w cael yn y sied botio), ystafell dymherus (yn efelychu hinsawdd tymherus cynnes gyda rhai o'n rhywogaethau planhigion mwy, fel ein Cycad trawiadol a'n 'Aderyn Paradwys'. Mae'r ystafell hon hefyd yn cynnwys pwll a mainc i bedwar (a osodwyd a'i phaentio gan aelodau’r Clwb Phyte), ac ystafell niwlog (sy'n efelychu amgylchedd llaith, trofannol y jyngl).
Ein gweledigaeth ar gyfer ei ddefnydd yn y dyfodol (a allai llawer ohonynt ennill arian, gan dalu am gynnal a chadw'r lle a'i wneud yn fwy deniadol yn nhermau economaidd i'r brifysgol):
- Gweithgareddau Llesiant – dro ar ôl tro, rydyn ni wedi derbyn adborth bod naws tawel a heddychlon yn perthyn i’r lle y mae ymwelwyr yn ei deimlo, yn enwedig gyda’n mainc a’n pwll (beth gewch chi well nac eistedd mewn jyngl bach yn gwrando ar sŵn ffynnon ddŵr?)
- Prosiectau Ymchwil – oes cyfleuster gwell i’w ddefnyddio ar gyfer prosiectau traethodau DLS a DGES (ar gyfer israddedigion a ôl-raddedigion)? Mae yna hefyd ddigonedd o bosibiliadau ar gyfer ymchwil ar y cyd gyda sefydliadau allanol, gan fanteisio ar y planhigion prin cyfan sydd yn anodd eu cael unrhyw le arall yng Nghymru. Rydyn ni eisoes wedi siarad â rhai sefydliadau allanol sydd â diddordeb yn y lle, ac maen nhw wedi’u swyno a’u cyffroi gan y lle.
- Addysgu – er bod y lle yn cael ei ddefnyddio erbyn hyn at ychydig o wersi ymarferol yn unig, yn y gorffennol roedd yn cael ei ddefnyddio'n llawer mwy rheolaidd. Mae hyn yn bennaf ar gyfer DLS, ond gallai llawer o gynlluniau gradd ac adrannau eraill gael budd o’r lle hwn ar gyfer amrywiaeth o gyfleoedd addysgu. Byddai’n lle gwych ar gyfer myfyrwyr ffilm a chelf, yn ffynhonnell ysbrydoliaeth i fyfyrwyr ysgrifennu creadigol, ac yn wir, digonedd o ddefnyddiau eraill!
- Cyfleoedd Academaidd - byddai arddangos yr adnodd hwn yn fantais fawr ar gyfer diwrnodau agored ac ymwelwyr trwy gydol y flwyddyn.
- Gwirfoddoli – mae hyn ar gael ar hyn o bryd drwy Glwb Phyte yn ein sesiynau wythnosol, ond gellid ehangu’r cyfleoedd i roi y cyfle i fwy o fyfyrwyr i ymuno. Weithiau byddwn yn gweld gwrthdaro gydag amseru ein sesiynau Mercher a chael adborth yr hoffai myfyrwyr ddod rhywbryd arall yn yr wythnos.
- Cysylltiadau â'r gymuned/denu diddordeb y cyhoedd - mae llu o grwpiau lleol a fyddai wrth eu bodd yn ymweld â'r lle a'i ddefnyddio (gellid rhentu'r fan, annog 'rhoddion dewisol', neu werthu cardiau post gyda lluniau o'r lle arnynt), megis Sefydliad y Merched lleol, amryw o grwpiau eglwysig, neu grwpiau bywyd gwyllt lleol.
- Profiad Gwaith Ymarferol - dyma gyfle gwych i fyfyrwyr gael profiad uniongyrchol o arddwriaeth, garddio, botaneg, bioleg planhigion, a llawer mwy. Mae o fudd yn arbennig i fyfyrwyr sy’n ei gweld hi’n anodd gwneud gwaith ysgrifenedig yn unig. Mae hyn yn well o ran cynnwys myfyrwyr a allai ei chael hi’n anodd deall syniadau heb eu gweld â’n llygaid eu hunain fel arall.
- Digwyddiadau allanol - hoffem gael gwahodd mwy o siaradwyr gwadd i’r lle hwn fel i ni wneud ychydig o weithiau eleni, ond ein nod un dydd yw gweld y lle hwn yn cynnal digwyddiadau mwy eraill (ee rhan o Ŵyl Llên Aberystwyth; Aber Resonate; creu arddangosfa yn rhan o arddangosfeydd celf Canolfan y Celfyddydau ayyb)
- Defnydd Myfyrwyr - trwy gydol y flwyddyn hon rydyn ni wedi agor y man i amryw o gymdeithasau a chlybiau myfyrwyr i un ai ei ddefnyddio at gymdeithasau (ee y gymdeithas grefft, y gymdeithas ysgrifennu creadigol a’r gymdeithas ffotograffiaeth) a hyd yn oed fel lle i Gymdeithas System Sain Aberystwyth gynnal ei hetholiadau.
Sut i’w weithredu/ein syniadau:
- Ailenwi'r safle yn 'Gerddi Botaneg Penglais' a gosod arwyddion clir er mwyn amlygu eu lleoliad a'i gwneud yn haws i bobl gyrraedd y lle.
- Adroddiadau blynyddol sy’n cofnodi at beth mae wedi cael ei ddefnyddio a sut siâp sydd arno i helpu llunio amcanion y dyfodol yn well.
- Aelod staff llawn-amser, parhaol neu aelod Undeb Aber i fod yn gyfrifol am y lle, er mwyn codi’r baich oddi ar aelodau staff a gwirfoddolwyr myfyrwyr, a sicrhau bod y lle yn cael ei ddefnyddio a’i fwynhau. Byddai'r aelod staff hefyd yn gallu cydweithio'n agos gyda Chlwb Phyte a Phwyllgor y Gerddi Botaneg i roi ein syniadau ar gyfer y dyfodol ar waith. Ar ôl ymgyrchu'n llwyddiannus, bydd y brifysgol yn penodi aelod staff rhan-amser am chwe mis (dros y tymor haf) Fodd bynnag, rydyn ni o’r farn bod angen i’r swydd hon fod yn swydd barhaol, er mwyn sicrhau dyfodol y Gerddi Botaneg.
- Gwnaethom gysylltu â'r 'Cynllun Gerddi Agored Cenedlaethol' a daeth eu cynrychiolwyr i weld y lle fel lleoliad posibl i godi arian at eu helusen ardderchog (fel y gwnaed yma yn 2007) Wnaethant ddangos diddordeb mawr ac wedi gwirioni ar ei harddwch, ei photensial, a’i naws heddychlon. Fe wnaethom ni roi’r aelodau staff perthnasol mewn cysylltiad â nhw er mwyn dechrau arni. Gwaetha’r modd, ddaeth ddim o hyn. Rydyn ni o’r farn pe bai aelod staff parhaol ar y safle i fod yn gyfrifol am faterion felly, fe allai’r fenter lwyddo. Byddai hyn yn ffordd anhygoel o ehangu ar ddefnydd ar y safle a’i wneud yn fwy gweledol yn y gymuned ehangach, tra’n codi arian at elusen.
Mae gennym gymaint o angerdd a chariad at y lle hardd yma ac mae gennym weledigaeth ar gyfer ei ddyfodol. Mae Clwb Phyte wedi bod yn gweithio'n ddiflino, yn gwirfoddoli i ofalu am y lle ac yn ceisio sicrhau bod yr adnodd arbennig hwn yn cael y sylw a'r parch y mae'n ei haeddu. Credwn ein bod wedi gweld cryn llwyddiant o ran yr amcanion hyn eleni. Mae mwy a mwy o fyfyrwyr yn trafod y Gerddi Botaneg erbyn hyn, gyda llawer ohonynt nad oedd yn gwybod am eu bodolaeth o gwbl cyn hyn. Ond mae’n rhyfeddol beth all myfyrwyr ei wneud ar eu liwt eu hun– ac erbyn hyn, mae angen eich cefnogaeth chi i adfer y lle arbennig hwn i’w hen ogoniant.
Rydyn ni o'r farn y dylai Gerddi Botaneg y brifysgol gael eu hadfywio o'r adfail anghofiedig presennol yn ganolfan fywiog er budd dysgu, ymchwil ac academia, ond hefyd yn rhywle wnaiff les i fyfyrwyr a’r gymuned ehangach.
Cyflwynwyd gan: Rebecca Edwards
Diweddariadau
Camau a gymerwyd |
Enw a Rôl |
Dyddiad |
|
|
|
|
|
|
Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn.