Pasiwyd gan: Y Senedd
Pasiwyd ar: 20/02/2023
Yn darfod ar: 20/02/2026
Statws: Cyflawn
Cyfleoedd Myfyrwyr
Crynodeb
Dylai’r UM ymrwymo i gynllun Effaith Werdd yr Undebau Myfyrwyr (y pecyn cymorth cynaliadwyedd a chynllun gwobrau ar gyfer y mudiad myfyrwyr) a’i helpu i fod yn fwy cynaliadwy. Dylai hefyd lobio’r Brifysgol i fynd yn fwy cynaliadwy.
Manylion
Rydym yng nghanol argyfwng hinsoddol ac amgylcheddol. Dyma fater a fydd yn cael effaith ar bawb yn Aberystwyth: myfyrwyr, staff a’r gymuned leol, dros y blynyddoedd i ddod, bydd effaith gymdeithasol, economaidd a chorfforol yr argyfwng yn gwaethygu. Daeth Aberystwyth yn 111 allan o 153 ym Mwrdd Cynghrair Prifysgolion Pobl a’r Blaned 2022. Mae’n rhaid inni wneud yn well na hyn.
Fel yr UM ac fel Prifysgol, mae rhaid i ni ddangos arweiniad yn ein cymuned i greu dyfodol mwy cynaliadwy i bawb. Er mwyn mynd I'r afael â’r argyfwng amgylcheddol bydd rhaid ymdrechu a chydweithio ar bob lefel o lywodraeth, o leol i genedlaethol. Dyma pam fod rhaid I'r UM a’r Brifysgol, fel rhan annatod o gymuned Aberystwyth, chwarae rôl flaengar. Cefais fy nenu i Aberystwyth diolch I'w chynlluniau newid hinsawdd arloesol, mae’n rhaid i gyd-ymdrechu i fod yn arweinwyr yn y sector Prifysgolion pan ddaw ati i strategaethau, polisïau ac arfer arloesol.
Ers y llynedd, mae Undeb y Myfyrwyr wedi ymrwymo i lawer o weithredu positif i fynd I'r afael â’r argyfwng amgylcheddol, o lobio’r Brifysgol i wrthod ariannu mewn tanwyddau ffosil, yn ogystal â mynd ati i gasglu adborth myfyrwyr ar gynaladwyedd, i drefnu Wythnos Werdd (a gynhelir ddiwedd Chwefror 2023). Mae’r gweithredoedd yn dod trwy gyngor yr Effaith Werdd i Undeb Myfyrwyr: cynllun sydd wedi ennill gwobrau a ddyfeisiwyd gan yr Cenhedloedd Unedig i gynnig cymorth strategaethol mewn Undebau Myfyrwyr i feithrin arferion amgylcheddol a chymdeithasol cynaliadwy.
Cyflwynwyd gan: Hector David Thomas Duncan
Diweddariadau
Camau a gymerwyd |
Enw a Rôl |
Dyddiad |
Mae’r Llywydd (2023-24) wrthi’n gweithio at achrediad trwy Gynllun yr Effaith Werdd ac yn casglu ymatebion oddi wrth fyfyrwyr sy’n rhannu eu barn. |
Bayanda ( Llywydd Undeb 2023-24) |
Tachwedd 2023 |
Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae Undeb Aberystwyth wedi ennill gradd “Rhagorol” yn ei asesiad gan Gynllun yr Effaith Werdd. |
Bayanda ( Llywydd Undeb 2024-2025) |
Tachwedd 2024 |
Gan fod Cynllun yr Effaith Werdd ond yn cael ei ariannu fel prosiect o ddwy flynedd, ni fyddwn yn gallu parhau â’r prosiect am y tro. Fodd bynnag, rydym am gadw at ein hymrwymiad i gynaliadwyedd trwy brosiectau presennol, gan gynnwys ymgyrchoedd, diwrnodau o weithredu, a’n Wythnos Werdd flynyddol. Rydyn ni’n gobeithio ailgydio yng Nghynllun yr Effaith Werdd yn y dyfodol. |
Bayanda ( Llywydd Undeb 2024-2025) |
Tachwedd 2024 |
Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn.