Pasiwyd gan: Y Senedd
Pasiwyd ar: 24/04/2023
Yn darfod ar: 24/04/2026
Statws: Rydym yn gweithio arno
Swyddog sy'n gyfrifol: Materion Academaidd
Manylion
Mae angen i Brifysgol Aberystwyth ac UMAber roi’r gorau i fancio gyda Barclays, HSBC neu unrhyw fanciau eraill sy’n gysylltiedig â chorfforaethau echdynnu tanwydd ffosil, a, cyn gynted â phosibl, trosglwyddo’r holl arian i fanc sydd wedi nodi telerau buddsoddiadau moesegol a chynaliadwy yn glir.
Mae'r Brifysgol a’r UM yn berchen ar symiau sylweddol o arian, gan gynnwys hyfforddiant a delir gan (neu ar ran) pob myfyriwr. Ar hyn o bryd mae'r symiau hyn dan ofal a rheolaeth Barclays a HSBC, dau o fanciau mwyaf y DU. Barclays, y banc a ddefnyddir fwyaf yn genedlaethol ac sy’n gweinyddu 16% o holl gyfrifon cyfredol y DU, yw buddsoddwr mwyaf Ewrop mewn tanwydd ffosil, ac mae wedi ariannu’r diwydiant tanwydd ffosil gydag amcangyfrif o $20bn.
Yn y cyfamser, mae HSBC, sydd hefyd yn buddsoddi mewn corfforaethau tanwydd ffosil, wedi honni trwy ddatganiadau eu bod am roi pen ar roi unrhyw arian i fusnesau sy’n gysylltiedig â datgoedwigo, ond mae wedi methu â chadw at ei addewidion. Yn lle hynny, amcangyfrifwyd y byddai HSBC yn derbyn dros $20mio yn 2021 gan fusnesau sy'n gysylltiedig â datgoedwigo. Mae hyn yn dangos, er bod effeithiau bancio ar yr hinsawdd yn llai gweladwy, maent ymhlith y rhai mwyaf arwyddocaol. Mae ystyried y diwydiannau a gefnogir gan gyllid y Brifysgol ac UM yn gam angenrheidiol yn y datblygiad tuag at ddod yn Brifysgol wyrddach. Fel Prifysgol sy'n ymfalchïo yn ei hymchwil ecolegol a'r amgylchedd a'r cyrsiau a gynigir, mae'n amhriodol i Brifysgol Aberystwyth ac UMAber fod hyd yn oed yn gysylltiedig yn anuniongyrchol â'r diwydiant tanwydd ffosil. Rydym yn mynnu felly, pan ddaw contract Prifysgol Aberystwyth â Barclays i ben yn y gorffennol ym mis Ebrill 2024, bod Prifysgol Aberystwyth yn ogystal ag UMAber yn trosglwyddo eu harian i fanc sydd wedi datgan telerau clir sy’n negyddu unrhyw gysylltiad ag unrhyw gorfforaethau echdynnu tanwydd ffosil neu anfoesegol, megis y Co-op.
Byddai sicrhau cefnogaeth yr UM yn ei gwneud hi’n fwy tebyg fyth y bydd y cais hwn yn dwyn ffrwyth yn y Brifysgol a’i rhoi hi ar ben ffordd at fod yn Brifysgol fwy cynaliadwy.
Cyflwynwyd gan: Luzie Volckers
Diweddariadau
Camau a gymerwyd |
Enw a Rôl |
Dyddiad |
Mae'r Brifysgol wedi cychwyn proses dendro i ddewis banc newydd, gyda'r dyddiad cau wedi'i osod ar gyfer Gorffennaf 15fed. |
Bayanda (Llywydd Undeb 2023-2025) |
Mehefin 2024 |
|
|
|
Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn.