Pasiwyd gan: Y Senedd
Pasiwyd ar: 30/04/2025
Yn darfod ar: 30/04/2028
Statws: Rydym yn gweithio arno
Manylion
Mae “X” (a elwid gynt yn “Twitter”) wedi gweld cryn newid sydd wedi tanseilio ei werth fel dull diogel, cynhwysol a hygred ar gyfer cyfathrebu ar-lein. Ers yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae iaith gasineb, camwybodaeth, chynnwys treisgar ac ymgyrchoedd aflonyddu yn rhemp ac wedi cynyddu’n gyson ar “X” o ganlyniad i newidiadau er gwaeth i’w bolisi ar gymedroli.
Ar hyn o bryd, mae gan Brifysgol Aberystwyth ac Undeb Aberystwyth ill dau dudalennau ar “X”, at y diben o gyfathrebu â’r rheini sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol.
Yn y misoedd diwethaf, mae nifer o sefydliadau cyhoeddus, masnachol, addysgiadol a llywodraethol wedi penderfynu i derfynu ar ddefnyddio ar “X” i gyfathrebu â’u cynulleidfaoedd. Yn ddiweddar, mae nifer o sefydliadau tebyg wedi gwneud y penderfyniad i roi’r gorau i “X”, os nad lleihau eu defnydd arno fel cyfrwng a dull ar gyfer cyfathrebu, sy’n cynnwys, i enwi ond ychydig:
-Undeb Bangor
-UM Sheffield
- Canolfan Astudiaethau Uwch Coleg Prifysgol Llundain
- dros 60 o brifysgolion ledled yr Almaen
- Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol Warwick
- Llyfrgell Prifysgol Efrog
- 7 o 31 coleg Prifysgol Caergrawnt
Dyma gyfle i Undeb Aberystwyth ddangos i’w fyfyrwyr fod ei weithredoedd yn cynrychioli ei bolisi ar ddim goddefgarwch i wahaniaethu, a’i weledigaeth o dryloywder a’i uchelgais er budd yr holl fyfyrwyr y mae polisi gweithredol a chymedroli “X” yn mynd yn gwbl groes iddynt.
Nid yw gwerthoedd “X” fel llwyfan o ran polisi ar gymedroli ac ymddygiad defnyddwyr yn cyd-fynd â rhai Undeb Aber. Mae parhau i ddefnyddio “X” fel dull o gyfathrebu yn mynd yn groes i addewid Undeb Aber i fod yn ddylanwad cadarnhaol ar fyfyrwyr.
Fe ddylai Undeb Aberystwyth roi terfyn ar ddefnyddio “X” fel dull o cyfathrebu, gan fod ei bolisïau niweidiol ar gymedroli a’r cynnydd mewn cynnwys cas yn groes i ymrwymiad yr Undeb i les myfyrwyr.
Cyflwynwyd gan: Luke Jones
Diweddariadau
Camau a gymerwyd |
Enw a Rôl |
Dyddiad |
|
|
|
|
|
|
Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn.