Er bod gan Gymru cerddoriaeth werinol arbennig, mae gan y sin gerddoriaeth Gymraeg gymaint yn fwy i'w chynnig a dyma bwrpas Dydd Miwsig Cymru.
Nid yw cerddoriaeth Gymraeg yn genre ei hun; o rap i reggae, o blws i roc, mae’r sin gerddoriaeth Gymraeg yn agor drysau i bob math o genres. Mae’r sin gerddoriaeth Gymraeg yn parhau i ffynnu gyda cherddoriaeth Gymraeg i'w weld ar draws y byd, o lwyfannau lleol i Glastonbury a thu hwnt i ffiniau’r Deyrnas Unedig.
Sefydlwyd y band roc cyntaf Cymraeg yn Aberystwyth, sef Y Blew, ym 1967. Ers hynny, mae Aberystwyth wedi bod yn ganolog i'r sin gerddoriaeth Gymraeg gyda nifer o artistiaid Cymraeg yn gyn-aelodau UMCA – er enghraifft y canwr gwerinol amgen Geraint Lövgreen, y band ôl-pync Mellt ac aelodau o’r band Dros Dro – a enillodd gystadleuaeth cyfansoddi mwyaf Cymru, Cân i Gymru, yn 2025.
Bellach, caiff nifer o gigs Cymraeg eu cynnal yn y Cwps yn y dref ond mae UMCA hefyd yn trefnu gigs ar hyd y flwyddyn gan gynnwys y Ddawns Ryng-golegol – digwyddiad blynyddol yn Aberystwyth ar gyfer myfyrwyr Cymraeg ar draws Cymru gyfan sy’n rhoi llwyfan i rai o fandiau mwyaf Cymru yn adeilad Undeb Aber.
Er mwyn gweld pa artistiaid Cymraeg a fydd yn chwarae yn yr ardal ac ar draws Cymru, ewch i:
awni? | map. gigs. cymraeg.