Dydd Gŵyl Dewi

Dyma ddydd cenedlaethol Cymru sy’n dathlu popeth Cymraeg a Chymreig. Er bod sawl ymdrech yn y gorffennol i ormesu a dileu diwylliant ac iaith ein gwlad, hyd heddiw, mae’r hunaniaeth Gymreig yma o hyd. O’n diwylliant gwerin traddodiadol a’n chwedlau, i'n timau rygbi a phêl-droed a’n sin gerddoriaeth amrywiol ac arloesol, pwrpas y diwrnod yw rhoi sylw i’r hyn sy’n llunio’r Gymru gyfoes.

Yr Hanes

Mae’r teitl yn dwyn enw nawddsant Cymru, sef Dewi Sant. Mynach oedd Dewi a oedd yn teithio Cymru yn rhannu hanesion y Beibl ac yn ôl yr hanes, wrth siarad gyda thyrfa enfawr yn Llanddewibrefi, fe gododd y tir oddi tano er mwyn i bawb ei weld a’i glywed. Fe aeth ati i adeiladu mynachdy a gaiff bellach ei gydnabod fel Eglwys Gadeiriol Ty Ddewi yn Sir Benfro.

Prif neges Dewi wrth siarad gydag eraill oedd i wneud y pethau bychain a chafodd ei adnabod fel un a oedd yn taenu cyfeillgarwch ar hyd Cymru.

Y Dathliadau

Erbyn heddiw, mae hi’n draddodiad i wisgo Cennin Pedr ar ddydd Gŵyl Dewi er mwyn mynegi balchder yn ein hunaniaeth Gymreig. Ceir dathliadau ar hyd a lled y wlad ac yma’n Undeb Aber, rydym yn cynnal Wythnos y Gymraeg sy’n gyfle i rannu diwylliant Cymreig a bwydydd traddodiadol Cymreig fel cacennau cri a chawl cennin. Ceir hefyd gorymdaith flynyddol yn y dref er mwyn dathlu.

Ar hyd a lled y wlad, byddai rhai yn cynnal Eisteddfod, sef diwrnod o gystadlaethau yn cynnwys canu, dawnsio, ysgrifennu creadigol a llawer mwy. Yn flynyddol, bydd UMCA yn cymryd rhan yn yr Eisteddfod Ryng-golegol, sef penwythnos o gystadlu rhwng prifysgolion Cymru – boed hynny drwy gystadlaethau corawl neu chwaraeon. Llynedd, roedd hi’n fraint gan UMCA i wahodd yr Eisteddfod yn Aberystwyth lle enillodd Aber yr Eisteddfod ar ddiwrnod Gwyl Dewi. Eleni, byddwn yn teithio draw i Gaerdydd mewn ymgais i gadw’r darian Ryng-golegol yn Aber am flwyddyn arall.

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576