Diwrnod Shwmae Sumae

Mae diwrnod Shwmae Sumae yn dathlu defnyddio’r Gymraeg ymhob agwedd o fywyd bob dydd. Y bwriad yw annog pobl i ddechrau pob sgwrs yn y Gymraeg a hynny drwy gyfarch efo Shwmae, Sumae, Ti’n iawn neu ba bynnag ffordd rwyt ti’n ei ddewis.

Os wyt ti’n siaradwr rhugl, yn dysgu Cymraeg neu’n dechrau ar dy daith gyda’r Gymraeg,

mae’n gyfle iti fwynhau’r iaith yn yr ystafell ddarlith, gyda ffrindiau neu mewn siop yn y dref.

Dathlwyd y Diwrnod Shwmae Sumae cyntaf yn ôl yn 2013 ac erbyn hyn, mae Menter Iaith, sef sefydliadau lleol sy’n gweithio’n galed i hybu’r Gymraeg yn ein cymunedau, yn llywio’r dathliadau.

Bob blwyddyn, mae caffis y brifysgol wedi bod yn cynnig paned am ddim i fyfyrwyr sy’n dechrau’r sgwrs yn y Gymraeg. Mae’n gyfle gwych i annog defnydd o’r Gymraeg ar draws holl fyfyrwyr y brifysgol – dyma fideo o gymuned Undeb Aber yn ymuno yn y dathliadau drwy rannu eu hoff eiriau Cymraeg:

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576