Diwrnod Santes Dwynwen

Yn hytrach na dathlu’r San Ffolant Seisnig, mae pobl Cymru yn dathlu Diwrnod Santes Dwynwen, sef nawddsant cariadon Cymru.

 

Yr Hanes

 

Er bod sawl elfen o hanes Dwynwen yn ymwreiddio mewn chwedlau Celtaidd, y gred yw ei bod yn ferch i Brychan Brycheiniog. Yn ôl yr hanes, er i Dwynwen garu gwr o’r enw Maelon, nid oedd yn bosib iddi briodi Maelon am fod ei thad wedi gwneud addewid y byddai’n priodi gŵr arall.

 

Yn ei thor-calon, gweddïodd Dwynwen ar Dduw iddo ei rhyddhau hi o’i chariad at Maelon. Yna, mae hi’n breuddwydio bod Maelon wedi’i rewi’n dalp o iâ ac felly, mae hi’n gweddïo eto yn erfyn ar Dduw am dri peth; iddo ddadmer Maelor; iddo ofalu am holl gariadon Cymru; ac iddo sicrhau na fyddai Dwynwen yn priodi byth.

 

Yn y pen draw, cafodd dymuniadau Dwynwen eu gwireddu a daeth hi’n nawddsant cariadon Cymru. Yn ôl y chwedl, aeth i fyw fel lleian ar Ynys Llanddwyn, ger Ynys Môn, lle mae’n bosib ymweld ag ef hyd heddiw ac mae’n bosib crwydro adfeilion ei heglwys ar yr ynys.

 

Y Dathliadau

 

Yn flynyddol, cynhelir gorymdaith yn llawn ei lliw ar hyd strydoedd Aberystwyth i ddathlu diwrnod Santes Dwynwen gyda dawns draddodiadol Gymraeg, Twmpath, i gloi’r prynhawn.

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576