Yn syml, dyma ddiwrnod sy’n mynnu ein hawl i siarad a defnyddio’r Gymraeg ac mae’n dathlu ymdrechion ac aberth ymgyrchwyr y gorffennol i sicrhau ein bod ni’n gallu defnyddio’r Gymraeg heddiw.
Wrth edrych yn ôl ar y bymthegfed ganrif lle mynnwyd nad oedd y Gymraeg yn iaith ar gyfer gweinyddiaeth cyhoeddus, mae Diwrnod Hawliau’r Gymraeg yn cydnabod y newid a ddaeth yn sgil ymgyrchoedd i ganiatáu inni ddefnyddio’r Gymraeg yn yr ystafell ddosbarth, yn y llys a hyd yn oed ein sgriniau teledu.
Roedd Aberystwyth yn fan cychwyn ar gyfer ymgyrchu er hawliau’r iaith Gymraeg – yn ôl yn 1963, dyma lle cynhaliwyd y brotest gyntaf gan Gymdeithas yr Iaith, sef sefydliad sy’n brwydro ar gyfer yr hawliau hynny. Roedd y brotest yn ymateb i garchariad Gareth Miles am iddo wrthod ymddangos yn y llys am iddo dderbyn gwŷs uniaith Saesneg. Bwriad y protestwyr oedd cael eu harestio eu hunain fel eu bod hwythau hefyd yn gallu gwrthod ymddangos gerbron y llys nes iddyn nhw dderbyn yr hawl i wneud hynny drwy’r Gymraeg.
Mae’n bwysig ein bod ni’n parhau i ddathlu’r diwrnod a chydnabod holl fyfyrwyr Aberystwyth sydd wedi bod yn rhan gynhenid o ymgyrchu er yr iaith.
Eleni, byddwn yn cynnal digwyddiad yn Neuadd Pantycelyn er mwyn nodi Diwrnod Hawliau’r Gymraeg a dathlu gweithiau celf newydd ar waliau’r neuadd breswyl wedi’i greu gan ddefnyddio cardiau protest rhai o brotestiadau nodedig myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth er yr iaith.
Darllen Mwy