Rhyddhad Cymreig

Mae brwydro er iaith a diwylliant yn rhan gynhenid o’n hunaniaeth yng Nghymru – boed yn ôl yn y bumed ganrif wrth geisio amddiffyn tir yr Hen Ogledd yn wyneb bygythiad y Sacsoniaid neu ym mhrotestiadau'r ugeinfed ganrif er hawliau swyddogol i'r iaith.

Dyma dudalen ar gyfer rhai dyddiadau sy’n nodi pwysigrwydd a hanes y Gymraeg a diwylliant Cymreig.


UMCA

Ers y dechrau un, bu Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth yn rhan o’r frwydr hon. Sefydlwyd UMCA ym 1973 er mwyn rhoi llais i fyfyrwyr Cymraeg ac roedd yn gatalydd ar gyfer ymgyrch er yr iaith ar draws prifysgolion Cymru gyda sefydliad UMCA yn y pen draw yn ysgogi sefydlu Undebau Myfyrwyr Cymraeg ym Mangor a Chaerdydd.

Mae UMCA yn sefydliad sy’n cynrychioli a lleisio barn myfyrwyr Cymraeg yn gymdeithasol, academaidd a gwleidyddol yn Undeb Aber, ar draws y brifysgol ac yn genedlaethol. O drefnu digwyddiadau cymdeithasol cyfrwng Cymraeg i leisio barn ar bwyllgorau academaidd cenedlaethol, mae gan UMCA rôl allweddol yn creu a chynnal amgylchedd lle gall myfyrwyr Cymraeg fyw yn llwyr drwy’r Gymraeg.

Pantycelyn

Un o’i rolau mwyaf dylanwadol yw’r rôl gwleidyddol. Mae nifer o ddatblygiadau er y Gymraeg yn y brifysgol yn ddyledus i weithgarwch myfyrwyr UMCA ar draws y blynyddoedd.

Eu brwydr amlycaf mae’n debyg oedd eu brwydr i amddiffyn Neuadd Pantycelyn pan fygythiodd y brifysgol i gau’r neuadd fel neuadd preswyl cyfrwng Cymraeg yn 2013. Ysgogodd hyn ymgyrch Achub Pantycelyn a arweiniodd at sawl protest, y myfyrwyr yn meddiannu’r adeilad preswyl a hyd yn oed dros i 30 o fyfyrwyr yn bygwth i ymprydio.

Gyda diolch i'r ymgyrch, mae Neuadd Pantycelyn bellach wedi cael ei hadnewyddu ac yn galon i'r gymuned Gymraeg yn Aberystwyth, mewn gobaith y bydd hyn yn parhau am ddegawdau i'w ddod.


   
   

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576