ETHOLIADAU’R SENEDD - 7FED MAI

 

Dyddiadau Pwysig

  • Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio - 20fed Ebrill - Hanner nos
  • Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am bleidleisio trwy’r post a phleidleisio trwy ddirprwy - 21ain Ebrill - 5yh
  • y Diwrnod Pleidleisio - 7fed Mai

Key Dates Dyddiadau Pwysig Beth Yw'r Senedd?

Llywodraeth Cymru yw’r Senedd Mae ganddi 60 aelod. Y Senedd sy’n llunio deddfau dros Gymru. Mae ar wahân i San Steffan, sy’n llunio deddfau dros y Deyrnas Unedig i gyd.

Does ond gan y Senedd ddylanwad ar nifer gyfyngedig o feysydd. Gelwir y rhain yn faterion datganoledig. Gan gynnwys:

  • Amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota
  • Addysg
  • yr Amgylchedd
  • Iechyd a gofal cymdeithasol
  • Tai
  • Llywodraeth lleol
  • Priffyrdd a thrafnidiaeth
  • Ychydig o reolaeth dros dreth incwm, treth stamp a threth dirlenwi
  • Y Gymraeg

Mae rhai materion heb eu datganoli, gan olygu mai San Steffan sy’n eu penderfynu. Bydd yr ymgeiswyr yn annhebygol o ymgyrchu dros y materion hyn oherwydd hynny. Cewch ddysgu mwy am ddatganoli yma.


Termau Pwysig

  • Etholaeth - mae’r rhain yn rhannu’r wlad yn ôl maint ardal a phoblogaeth, ac mae pob etholaeth yn dewis ei chynrychiolwyr
  • Maniffesto - rhestr o addewidion y mae pleidiau yn eu gwneud i chi cyn cael eu hethol
  • Plaid - grŵp o wleidyddion â’r un polisïau

Cofrestru I Bleidlesisio

Cewch gofrestru i bleidleisio ar-lein Dim ond 5 munud sydd eisiau Mae hefyd modd i chi lawrlwytho ffurflen gofrestru bapur

Mae’n rhaid i chi gofrestru erbyn Ebrill 20ain 2026

Myfyrwyr Rhyngwladol

Caiff myfyrwyr rhyngwladol bleidleisio yn etholiadau’r Senedd.

Gall y rheolau amrywio o etholiad i etholiad - gweler yma os nad ydych chi’n siŵr

A gaiff myfyrwyr bleidleisio mewn dau le?

Cewch gofrestru mewn dau le, ond ni chewch bleidleisio ddwywaith yn yr un etholiad.

Os mae cyfeiriad eich cartref yng Nghymru, yna bydd rhaid i chi ddewis rhwng cyfeiriad eich cartref a’ch cyfeiriad tra’n astudio am yr etholiad hwn.

Dros bwy galla’ i bleidleisio?

Gellir edrych ar yr ymgeiswyr dros Geredigion Penfro yma

Ar gyfer aelodau presennol o’r Senedd, gellir ymweld â’r wefan hon i weld eu gweithredoedd blaenorol.

Peidiwch â phleidleisio’n ddifater - cofiwch edrych yn fanwl dros ymgeiswyr a’u polisïau cyn ymrwymo eich pleidlais.


Rwyf Yn Fyfyriwr rhyngwladol. A gaf i Bleidlesisio?

Cewch, mae myfyrwyr rhyngwladol sy'n byw yng Nghymru yn gallu pleidleisio yn etholiadau'r Senedd, cyn belled â'u bod wedi cofrestru i bleidleisio.

Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol sy'n astudio yng Nghymru, gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi cofrestru i bleidleisio erbyn y dyddiad cau, sef hanner-nos, ddydd Llun 20fed Ebrill.


A allaf gofrestru i Bleidleisio Mewn Dau Gyfeiriad?

Gallwch, caniateir i fyfyrwyr gofrestru i bleidleisio mewn mwy nag un cyfeiriad. Fodd bynnag, dim ond mewn un cyfeiriad y gallwch chi bleidleisio mewn etholiad ar gyfer y Senedd.

Gwyddom fod myfyrwyr yn aml yn rhannu eu hamser rhwng eu cyfeiriad yn ystod y tymor a'u cyfeiriad cartref, felly mae'n bwysig eich bod wedi cofrestru yn y ddau.

 


Sut Ca'i Bleidlesisio?

  • Wyneb yn wyneb mewn gorsaf bleidleisio - agorith y rhain o 7yh i 10yh ar y diwrnod polio.
  • Drwy’r post - mae rhaid i chi gofrestru ar gyfer pleidlais drwy’r post erbyn Ebrill 21ain. 
  • Pleidlais drwy ddirprwy - mae modd i chi ddewis rhywun i bleidleisio ar eich ran. / Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais trwy ddirprwy yw 5pm dydd Mawrth 28ain Ebrill 2026.

Fydd angen cerdyn adnabod arnaf i?

Na fydd. Fydd dim angen cerdyn adnabod arnoch ar gyfer etholiadau’r Senedd.

Efallai bydd ei angen arnoch ar gyfer etholiadau eraill ta waeth - gwell edrych ar wefan y Comisiwn Etholiadol os oes rhaid.

Pleidleisio a Phreifatrwydd

Pan fyddwch chi’n cofrestru bydd gofyn i chi roi:

  • Eich Enw
  • Eich Cyfeiriad
  • Eich Rhif Yswiriant Gwladol
  • Eich Cenedligrwydd
  • Eich Oedran

Aiff y wybodaeth hon ar y Gofrestr Agored yn awtomataidd Dyma wybodaeth gyhoeddus a all gael ei phrynu neu ei defnyddio gan unrhyw un at unrhyw ddiben.

Os oes gennych chi bryderon ynghylch eich preifatrwydd, mae modd i chi dynnu yn ôl o hyn wrth gofrestru. Mae modd i chi dynnu yn ôl yn hwyrach ymlaen.

Y Gofrestr Etholiadol: Waeth a ydych chi’n tynnu yn ôl o’r Gofrestr Agored, bydd eich gwybodaeth yn dal i ymddangos ar y Gofrestr Etholiadol. Mae’r hawl i gael gafael ar hyn yn cael ei reoli ac mae angen caniatâd. Mae Aelodau Seneddol, pleidiau gwleidyddol, llyfrgelloedd cyhoeddus, asiantaethau credyd ac asiantaethau’r llywodraeth yn cael eu gweld.

Pleidleisio’n ddi-enw: Os oes gennych chi bryderon ynglŷn â’r Gofrestr Etholiadol yn cadw eich manylion, mae modd i chi bleidleisio yn ddi-enw.

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576