Fy Nghyngor i

     

Cyngor yr Undeb yw prif gorff penderfynu UMAber, gyda chynrychiolwyr etholedig yn gosod cyfeiriad ein gwaith, creu polisïau i greu newid parhaol a sicrhau ein bod ni'n gweithio drosoch chi. Gellir crynhoi swyddogaeth Cyngor yr Undeb mewn 5 pwynt:

  • Trafod a phenderfynu polisïau UMAber
  • Penderfynu ar gyfeiriad ymgyrchoedd UMAber
  • Dal Tîm y Swyddogion i gyfrif
  • Codi materion sy'n effeithio ar fyfyrwyr ar y campws a'r tu hwnt
  • Adolygu, gwella a chymeradwyo dogfennau llywodraethu UMAber

Os ydych chi am wybod mwy ynglyn â phwy sy'n aelod o Gyngor yr Undeb neu sut mae'r Cyngor yn gweithredu, edrychwch ar ein canllawiau Newid Aber.

Cyfarfodydd

Byddwn ni'n gwneud popeth i sicrhau eich bod chi'n gwybod ble a phryd mae pob cyfarfod ac unrhyw ddyddiad cau.

Byddwn ni'n sicrhau bod yr agenda ac unrhyw ddogfen atodol ar y wefan 7 diwrnod cyn unrhyw gyfarfod. Byddwn ni hefyd yn sicrhau y caiff cofnodion pob cyfarfod eu huwchlwytho o fewn 7 diwrnod ar ei ôl er mwyn i chi gadw'n gyfoes.

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576