Felly, rydych chi am newid Aber er gwell?

Gwych! Rydyn ni yma yn UMAber yn awyddus i glywed gennych chi, ein haelodau, ynglyn â'r hyn y credwch y gallem ni ei wneud i wella eich amser yn Aber.

Er mwyn ei gwneud yn haws i chi lunio ein gwaith, mae NewidAber yn cynnig 3 opsiwn i chi ar gyfer gweithredu eich syniadau am newid.

1. Eich Tîm Swyddogion

Dewiswch yr opsiwn hwn os yw eich syniad yn rhywbeth rydym efallai'n gweithio arno eisoes, megis gwell cyfleusterau chwaraeon, neu rywbeth sy'n rhaid ei wneud AR UNWAITH fel atal eich clinig iechyd rhag cau.

2. Cyngor yr Undeb

Os yw eich syniad yn rhywbeth a allai gymryd amser i'w osod mewn lle neu os ydych yn credu ei fod yn rhywbeth ddylai digwydd bob blwyddyn megis ymgyrchu i ddatrys ffioedd rhyngwladol, yna hwn yw'r llwybr i chi.

3. Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr

Os oes gan eich syniad y potensial i greu effaith enfawr ar sut mae UMAber yn gweithredu neu i effeithio ar holl gorff y myfyrwyr, e.e. Swyddog Rhyngwladol llawn-amser, yna Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr sy'n addas i chi.

Pa bynnag opsiwn fyddwch chi'n ei ddewis i wireddu eich syniad, byddwn ni yn UMAber yn eich helpu i wneud i hyn ddigwydd. Os ydych chi'n dal yn ansicr, mae croeso i chi ddod i'n gweld ni yn yr Undeb neu e-bostio'r Tîm.  

Gwelliannau

Gallwch hefyd gyflwyno gwelliannau drwy'r ffurflen hon. Nodwch enw'r syniad yn yr adran teitl.