Mae myfyrwyr yn arwain ym mhob agwedd o Undeb y Myfyrwyr. Rydym yn defnyddio etholiadau democrataidd i'ch helpu i benderfynu pwy ddylai siarad a gweithio ar eich rhan ar ystod o faterion tra byddwch yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Gall pob myfyriwr sydd wedi cofrestru sefyll a phleidleisio ar gyfer unrhyw rôl sy'n berthnasol iddyn nhw.

Mae'n adeg gyffrous yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, gan ein bod ni ar fin dechrau ar gynllun newydd; fel Swyddog llawn-amser neu ran-amser, bydd gennych gyfle i ymuno â ni ar ein taith, adeiladu'r dyfodol a llunio eich un chi.

 

 


YMGEISIO'N AGOR – Dydd Mercher 1 Chwefror
YMGEISIO'N CAU – 4pm Dydd Mawrth 28 Chwefror
PLEIDLEISIO'N AGOR – 9am Dydd Llun 13 Mawrth
PLEIDLEISIO'N CAU – 3pm Dydd Gwener 17 Mawrth
NOSON Y CANLYNIADAU – 8:30pm Nos Wener 17 Mawrth