Gwirfoddolwyr Cymorth Cymunedol (COVID)

Myfyrwyr sy’n gwirfoddoli yw Gwirfoddolwyr Cymorth Cymunedol, sydd wedi cytuno i gynnig cymorth i fyfyrwyr a'r gymuned leol lle bo angen yn ystod y pandemig byd-eang parhaus.

Gallai hyn olygu rhoi cymorth i unigolion yn eich ardal leol drwy wneud ffrindiau â nhw i helpu â lleihau unigrwydd neu arwahanrwydd, naill ai dros y ffôn, trwy e-bost neu ar ffurf sgwrs fideo ar-lein. Gallai hefyd olygu danfon nwyddau neu feddyginiaeth i garreg y drws i'r rhai sy'n ynysu yn ogystal â bod yn bwynt cyswllt cyffredinol i'r rhai a allai fod angen y gefnogaeth.

Bydd gennych awydd i helpu eraill yn eich cymuned gyda brwdfrydedd ac wyneb cyfeillgar, a bod yn barod i wisgo PPE lle bo angen gwneud hynny.

Ein nod yw sefydlu banc o wirfoddolwyr, fel pe bai eu hangen neu os yw’r llywodraeth yn gosod cyfyngiadau tynnach, ein bod ni yn y sefyllfa orau i'w hanfon nhw i gynnig cymorth i fyfyrwyr a'r gymuned ehangach.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag alg51@aber.ac.uk neu i wneud, cais cwblhewch ein ffurflen gais isod.

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576