Cydweithrediad Bwyd
Awydd mwy o fwyd am lai o arian? Mae’r Cydweithrediad Bwyd yn gweithredu o Undeb y Myfyrwyr ac yn dod â ffrwythau, llysiau ac wyau ffres ac organig i'r campws am brisiau cyfanwerthu. Os ydych chi eisiau prynu eich cynnyrch yn rhad neu hyd yn oed bod yn rhan o’r trefnu, dywedwch wrth eich ffrindiau, rhowch y gair ar led a thorchwch eich llewys! Mae angen gwirfoddolwyr arnom i sortio’r archebion bwyd, hyrwyddo’r cynllun a chynorthwyo gydag ymchwil marchnad.
Sgiliau Gwerthfawr i’w hennill:
Gwasanaethau Cwsmeriaid, Gwaith Tîm, Cyllid, Marchnata, Cael gafael ar Gyflenwyr, Rhwydweithio Cymdeithasol, Delio â’r cyhoedd