Dwi’n poeni am ddiogel rhywun

Os ydych chi'n meddwl bod rhywun rydych chi'n ei adnabod yn wynebu achosion o fwlio, aflonyddu neu drais, gallwch chi eu helpu mewn llawer o ffyrdd.

Rydyn ni'n annog pawb i wneud y canlynol: GWELD, RHOI GWYBOD a GWEITHREDU wrth ddelio ag achosion o fwlio, aflonyddu a thrais.

Gall datgelu ddod ar sawl ffurf; gallai fod yn rhywbeth sy'n cael ei ddweud fel jôc, stori mae rhywun yn dechrau ei hadrodd cyn stopio a dweud does dim ots, neu gallai fod yn gwestiwn.  Does dim disgwyl i chi fod yn ymgynghorydd proffesiynol; ond gall gwybod sut mae ymateb i ddatgeliad cyntaf fod yn bwysig iawn. Gall person gymryd amser i benderfynu ar yr hyn mae am ei wneud a sut i symud ymlaen.

 

GWELD

  • Ydy'r person mewn perygl enbyd? Os ydych chi mewn perygl enbyd neu wedi cael eich anafu'n ddifrifol, ffoniwch 999 (neu 112 o ffôn symudol).
  • Dewch o hyd i le diogel. Os ydy rhywbeth newydd ddigwydd, ceisiwch ddod o hyd i rywle mae'r unigolyn yn teimlo'n ddiogel ynddo. Os nad fydd hynny'n bosib ac os ydych chi'n teimlo ofn, bydd modd ffonio adran ddiogelwch y campws ar 01970 622900.
  • Ydy e'n ymddygiad annerbyniol? Gallai meddwl am wahanol ddiffiniadau o ymddygiad annerbyniol a sut caiff yr ymddygiadau hyn eu disgrifio fod yn ddefnyddiol. Gweler gwahanol ddiffiniadau o ymddygiad annerbyniol ar ein tudalen Ddiffiniadau.

RHOI GWYBOD

  • Rhowch opsiynau. Pan fydd yr unigolyn wedi gorffen siarad, gofynnwch a yw ef/hi'n iawn i siarad drwy opsiynau a'r camau nesaf.
  • Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd. Gall ymgynghorydd eich tywys drwy weithdrefnau'r Brifysgol, sut mae gwneud cwyn a pha gymorth sydd ar gael, a'r cyfan yn gyfrinachol.
  • Gwasanaeth Cynghori UMAber. Mae hwn yn wasanaeth cyfrinachol a diduedd, rhad ac am ddim, lle gall ymgynghorydd eich tywys drwy'r opsiynau sydd ar gael a rhoi cymorth i chi ddelio â gweithdrefnau’r Brifysgol. Mae'r cymorth hwn yn cynnwys gwirio cwynion drafft a mynychu unrhyw gyfarfodydd gyda'r Brifysgol.

GWEITHREDU

  • Gall myfyrwyr adrodd am ddigwyddiad gan ddefnyddio system Adrodd y Brifysgol. Cewch ddewis gwneud hyn yn ddienw, fel trydydd parti neu drwy ddatgelu'ch hun. Os byddwch chi'n rhoi eich manylion i ni, cewch ddewis siarad ag ymgynghorydd a fydd yn gallu trafod yr opsiynau a'r cymorth sydd ar gael i chi yn gyfrinachol.
  • Gweithdrefnau’r Brifysgol. Os byddwch chi'n dewis gwneud cwyn ffurfiol i'r Brifysgol am fyfyriwr neu aelod o'r staff, mae gan y Brifysgol weithdrefnau sy'n gosod y camau y bydd angen i chi eu dilyn.
  • Ewch i gael gwybod pa gymorth sydd ar gael.
  • Mewn achosion o ymosod rhywiol mae Argyfwng Treisio yn darparu gwybodaeth bellach ar roi cymorth i oroeswr ymosodiad rhywiol.

A phan fydd yn briodol:

  • Adrodd i'r heddlu.
  • Adrodd y digwyddiad yn ddienw. Cewch ffonio Taclo'r Taclau unrhyw bryd ar 0800 555 111 neu ddefnyddio eu ffurflen ar-lein.

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576