Diffiniadau

Beth yw bwlio ac aflonyddu?

Diffiniad bwlio yw ymddygiad sarhaus, bygythiol neu faleisus, camddefnyddio grym drwy foddau i danseilio, sarhau, difrïo neu anafu'r unigolyn sy'n ei wynebu. Does dim angen dangos y bwriad i fwlio. Y cyfan sy'n bwysig yw bod y bwlio wedi digwydd.

Gall bwlio gynnwys, er enghraifft:

  • gweiddi, bod yn sarcastic tuag at eraill neu eu gwatwar neu eu diraddio
  • bygythiadau corfforol neu seicolegol
  • goruchwylio'n ormodol neu'n fygythiol
  • sylwadau amhriodol a/neu fychanol am berfformiad rhywun
  • camddefnyddio awdurdod neu rym gan y rheiny sydd mewn swyddi uchel eu statws
  • eithrio rhywun yn fwriadol o gyfarfodydd neu gyfathrebiadau heb reswm da.

Diffiniad aflonyddu yw sylwadau neu ymddygiad dieisiau sy'n cael eu hystyried yn ddiraddiol ac yn annerbyniol gan y sawl sy'n eu hwynebu neu gan unrhyw berson rhesymol. Mae'n berthnasol i oedran, anabledd, aseiniad rhyweddol, hil, crefydd neu gred, rhywedd, tueddfryd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, neu unrhyw nodwedd bersonol y myfyriwr. Gall fod yn fwriadol neu fel arall; yn gyson neu'n ddigwyddiad untro.

Gall aflonyddu gynnwys, er enghraifft:

  • ymddygiad corfforol diangen neu chwarae gwirion, gan gynnwys cyffwrdd, pinsio, gwthio, cipio, brwsio heibio rhywun, mynd yn rhy agos a ffurfiau mwy difrifol o ymosod corfforol neu rywiol
  • sylwadau neu ystumiau sarhaus neu frawychus, neu jôcs anweddus neu gastiau
  • gwneud hwyl am ben person anabl neu ddynwared neu fychanu anabledd person
  • jôcs ar sail hil, rhywedd, tueddfryd rhywiol neu oedran, neu sylwadau sarhaus am grwp ethnig neu grefyddol neu rywedd penodol
  • datgelu tueddfryd rhywiol rhywun heb gydsyniad neu fwgwth gwneud hynny
  • anwybyddu neu osgoi rhywun, er enghraifft, ei allgau'n fwriadol o sgwrs neu weithgaredd cymdeithasol.

Caiff rhai mathau o aflonyddu eu hystyried yn drosedd casineb.  Trais neu elyniaeth yn erbyn person neu eiddo yw digwyddiad neu drosedd casineb. Caiff ei sbarduno gan elyniaeth neu ragfarn tuag at rywun yn sgil nodwedd benodol a ddiogelir. Ewch ar ein gwefan i gael gwybod mwy.

Disgrifir mathau eraill o aflonyddu dan y mathau o ymddygiad annerbyniol ar wefan y Brifysgol.


Beth yw aflonyddu rhywiol?

Mae aflonyddu rhywiol yn cyfeirio at sylwadau rhywiol, gwahoddiadau rhywiol, ensyniadau ac ystumiau sarhaus dieisiau, gan gynnwys chwibanu, galw enwau, ymbalfalu, pinsio neu daro corff unigolyn. Mae'n cynnwys tynnu dillad heb ganiatâd neu unigolyn yn datgelu ei hun heb ganiatâd; cyswllt corfforol anaddas, dangos deunydd rhywiol (ar bapur neu'n electronig), jôcs amhriodol o natur rywiol, ceisiadau neu awgrymiadau anweddus.


Beth yw trais domestig?

Mae trais domestig yn cyfeirio at gam-drin o fewn pob math o berthynas agos neu deuluol. Gall cam-drin o'r fath fod yn gorfforol, yn rhywiol, yn seicolegol neu'n emosiynol a gall fod yn wirioneddol, yn ymgais neu'n fygythiad. Gall y gamdriniaeth ddechrau unrhyw bryd, mewn perthynas newydd neu ar ôl blynyddoedd lawer gyda'i gilydd.


Beth yw trosedd casineb?

Diffiniad digwyddiad casineb yw unrhyw ddigwyddiad mae'r dioddefwr, neu unrhyw un arall, yn ei ystyried yn seiliedig ar ragfarn rhywun tuag ato/i yn sgil eu hil, crefydd, tueddfryd rhywiol, anabledd neu oherwydd eu bod yn drawsrywedd. Gall hyn fod yn ddigwyddiad yn erbyn person neu yn erbyn eiddo ac mae'n cynnwys deunyddiau a bostiwyd ar-lein.

Gall digwyddiadau casineb gynnwys, er enghraifft:

  • cam-drin llafar fel galw enwau a gwneud jôcs sarhaus
  • aflonyddu
  • plant, oedolion, cymdogion neu ddieithriaid yn bwlio neu'n bygwth
  • ymosodiadau corfforol fel taro, pwnio, gwthio, poeri
  • bygwth trais
  • ffug alwadau ar y ffôn, galwadau neu negeseuon testun sarhaus, gohebiaeth gasineb
  • cam-drin ar-lein, er enghraifft ar Facebook neu Twitter
  • dangos neu ddosbarthu llenyddiaeth neu bosteri gwahaniaethol
  • niwed neu ddifrod i bethau fel eich cartref, anifail anwes neu gerbyd
  • graffiti
  • llosgi bwriadol
  • taflu sbwriel i mewn i ardd
  • cwynion maleisus, er enghraifft dros barcio, arogl neu swn.

Mae unrhyw ddigwyddiad sy'n cyrraedd trothwy trosedd yn drosedd casineb. Mae rhywbeth sy'n torri'r gyfraith yn drosedd.

Gall troseddau casineb gynnwys, er enghraifft:

  • ymosodiadau
  • difrod troseddol
  • aflonyddu
  • llofruddiaeth
  • ymosodiad rhywiol
  • dwyn
  • twyll
  • bwrgleriaeth
  • gohebiaeth gasineb
  • aflonyddu

Oes mathau eraill o ymddygiad annerbyniol?

Mae gan y Brifysgol God Urddas a Pharch ar gyfer Myfyrwyr, sy’n rhestru amryw fathau o ymddygiad annerbyniol sy'n berthnasol i fyfyrwyr, aelodau staff a'r gymuned ehangach.

Mae'r rhestr hon yn cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i ymddygiad sy'n cynnwys bwlio, aflonyddu a thrais fel y manylir uchod.

Mae rhestr lawn o ymddygiadau annerbyniol i’w gweld ar wefan y Brifysgol.

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576