Rolau: Swyddogion Llawn Amser

Caiff 4 swyddog llawn-amser eu hethol a'u cyflogi am un flwyddyn y tu hwnt i'w hastudiaethau i wasanaethu fel arweinwyr gwleidyddol UMAber. Mae gan bob un ohonyn nhw ddyletswyddau unigol yn eu rolau, ac maen nhw'n gweithredu'r rhain ar sail yr addewidion a wnaed ganddyn nhw yn eu maniffestos.

Gyda'i gilydd, nhw yw llais holl fyfyrwyr Aberystwyth, ac ar y cyd, maen nhw'n gyfrifol am hyrwyddo ac amddiffyn hawliau myfyrwyr, ymgyrchu ar faterion o bwys, hyrwyddo cyfranogiad yn yr Undeb a chydlynu parthau a grwpiau o fyfyrwyr.

Hefyd, fel swyddog llawn amser, byddwch chi'n ymddiriedolwr ac yn eistedd ar Fwrdd yr Ymddiriedolwyr yn ogystal ag eistedd ar wahanol bwyllgorau rheoli'r Brifysgol i siarad ar ran myfyrwyr. Darperir hyfforddiant i bob swyddog etholedig, ynghyd â chymorth ac arweiniad i gyflawni'r rôl a throi eu hamcanion yn realiti.

 

I fynd yn syth at y rôl sydd o'r diddordeb mwyaf i chi, mae croeso i chi glicio ar un o'r dolenni isod…

Llywydd UMCA

Y Llywydd Cyfleoedd

Y Llywydd Academaidd

Y Llywydd Llesiant a Rhyddid


LLYWYDD UMCA

Llywydd UMCA yw llais y myfyrwyr dros ddiwylliant Cymru a myfyrwyr Cymraeg eu hiaith yn Aberystwyth. Ffocws eu swydd yw hybu diwylliant Cymru trwy roi’r cyfle i fyfyrwyr ddysgu a siarad Cymraeg a byw ynddi.

Bydd Llywydd UMCA yn gyfrifol am y canlynol:

  1. Sicrhau cynrychiolaeth ddigonol ar gyfer diwylliant Cymru a'r iaith Gymraeg yn Undeb y Myfyrwyr a sicrhau bod y polisi dwyieithrwydd yn cael ei hyrwyddo.
  2. Cydlynu gweithgareddau ac ymgyrchoedd sy'n ymwneud â buddiannau siaradwyr y Gymraeg a’r rhai sy’n dysgu’r iaith.
  3. Cynrychioli anghenion yr aelodau mewn Neuaddau Preswyl cyfrwng Cymraeg.
  4. Sicrhau bod Undeb Aber yn cael ei gadw'n gyfoes ynghylch materion lleol a chenedlaethol sy'n effeithio ar fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith.
  5. Lobïo UCM i ddarparu cynrychiolaeth ddigonol ar gyfer diwylliant Cymru a'r iaith Gymraeg.
  6. Gweithio gyda Phrif Weithredwr ac uwch dîm rheoli Undeb Aber i gyflawni a ffurfio amcanion a deilliannau strategol.
  7. Mynychu Pwyllgorau priodol y Brifysgol.
  8. Cwrdd yn rheolaidd gydag adrannau perthnasol y Brifysgol i hyrwyddo anghenion siaradwyr Cymraeg a'r rhai sy'n dysgu'r iaith.

Y LLYWYDD CYFLEOEDD

Y Llywydd Cyfleoedd yw llais y myfyrwyr dros chwaraeon, cymdeithasau a chyfleoedd gwirfoddoli. Mae eu swydd yn canolbwyntio ar roi’r daith orau bosib i fyfyrwyr a rhoi mwy na gradd yn unig iddynt.

Bydd y Llywydd Cyfleoedd yn gyfrifol am y canlynol:

  1. Cynrychioli corff y myfyrwyr ar faterion sy'n ymwneud â chwaraeon, cymdeithasau, gwirfoddoli a chyflogadwyedd.
  2. Cydlynu gweithgareddau ac ymgyrchoedd sy'n ymwneud â chwaraeon, cymdeithasau, gwirfoddoli a chyflogadwyedd.
  3. Cynnig sail ar gyfer polisïau'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr ynghylch materion sy'n ymwneud â chwaraeon, cymdeithasau, gwirfoddoli a chyflogadwyedd.
  4. Cynorthwyo a datblygu rhwydwaith o glybiau a chymdeithasau trwy gadeirio'r Parth Chwaraeon a Chymdeithasau.
  5. Gweithio gyda Phrif Weithredwr ac uwch dîm rheoli Undeb Aber i gyflawni a ffurfio amcanion a deilliannau strategol.
  6. Mynychu Pwyllgorau priodol y Brifysgol.
  7. Mynychu cyfarfodydd rheolaidd gydag adrannau perthnasol y Brifysgol i ddatblygu buddiannau clybiau, cymdeithasau, gwirfoddoli a chyflogadwyedd.

Y LLYWYDD ACADEMAIDD

Y Llywydd Academaidd yw llais y myfyrwyr dros bopeth o natur academaidd. Ffocws eu swydd yw gweithio er budd academaidd ein myfyrwyr.

Bydd y Llywydd Academaidd yn gyfrifol am y canlynol:

  1. Cynrychioli corff y myfyrwyr mewn meysydd sy'n ymwneud â materion academaidd, gan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol ac ôl-raddedig, ac ehangu cyfranogiad.
  2. Cydlynu gweithgareddau ac ymgyrchoedd sy'n ymwneud â materion academaidd.
  3. Cynnig sail ar gyfer polisïau'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr ynghylch meysydd sy'n ymwneud â materion academaidd.
  4. Cynorthwyo a datblygu rhwydwaith o gynrychiolwyr academaidd trwy gadeirio'r Parth Academaidd.
  5. Gweithio gyda Phrif Weithredwr ac uwch dîm rheoli Undeb Aber i gyflawni a ffurfio amcanion a deilliannau strategol.
  6. Mynychu Pwyllgorau priodol y Brifysgol.
  7. Mynychu cyfarfodydd rheolaidd gydag adrannau perthnasol y Brifysgol i ddatblygu buddiannau academaidd.

Y LLYWYDD LLESIANT A RHYDDID

Y Llywydd Llesiant a Rhyddid yw’r llais dros les a rhyddid myfyrwyr. Ffocws y swydd yw sicrhau bod ein myfyrwyr mor hapus a iach â phosib. Bydd y Llywydd Llesiant a Rhyddid yn gyfrifol am y canlynol:

  1. Cynrychioli corff y myfyrwyr ar faterion sy'n perthyn i lesiant, gan gynnwys cymorth i fyfyrwyr, lles, cydraddoldeb ac amrywioldeb.
  2. Cydlynu gweithgareddau ac ymgyrchoedd sy'n ymwneud â llesiant myfyrwyr.
  3. Cynnig sail ar gyfer polisïau'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr ynghylch materion sy'n ymwneud â llesiant myfyrwyr.
  4. Cynorthwyo a datblygu rhwydwaith o fyfyrwyr ar faterion llesiant trwy gadeirio'r Parth Llesiant.
  5. Gweithio gyda Phrif Weithredwr ac uwch dîm rheoli Undeb Aber i gyflawni a ffurfio amcanion a deilliannau strategol.
  6. Mynychu Pwyllgorau priodol y Brifysgol.
  7. Mynychu cyfarfodydd rheolaidd gydag adrannau perthnasol y Brifysgol i hyrwyddo datblygiad llesiant myfyrwyr.

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576