Sut mae’r recriwtio yn gweithredu:
Bydd eich adran yn eich hysbysu am y swyddi sydd i’w cael, a pha rai y gallwch ymgeisio amdanynt. I sefyll am swydd, llenwch y ffurflen sefyll ar-lein.
Yn ystod y ddarlith berthnasol, gallwch wneud datganiad fel ymgeisydd yn esbonio pam mai chi fyddai’r person gorau i gynrychioli eich cwrs.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn Gynrychiolydd a’ch bod yn bodloni’r meini profion, gallwch lenwi’r ffurflen recriwtio cynrychiolydd yn ystod ein hadegau recriwtio.
Anogir i chi ddangos eich diddordeb yn uniongyrchol i’ch darlithwyr neu’ch adran os oes swydd gynrychioli penodol sy’n apelio. Mae croeso i bawb â diddordeb ac yn gymwys roi eu henwau ymlaen!
Eisiau dysgu ynglyn â bod yn Cynrychiolydd Academaidd?
Beth yw Cynrychiolydd Academaidd?
Mae Cynrychiolwyr Academaidd yn fyfyrwyr sy’n gasglu adborth ac yn siarad ar ran myfyrwyr eraill i helpu gwneud eich addysg a’ch profiad Prifysgol y gorau posibl!
Caiff Cynrychiolwyr Academaidd eu recriwtio i’w rôl gan eu hadran. Mae hyn yn golygu eu bod wedi’u dewis fel y person gorau i arwain ar leisio adborth myfyrwyr i staff o fewn eu hadran, y Brifysgol neu Undeb y Myfyrwyr.
Y prif ffordd mae Cynrychiolwyr Academaidd yn lleisio adborth myfyrwyr yw gan fynychu Pwyllgorau Cyswllt Staff a Myfyrwyr (PCSMau) a gynhelir 3 gwaith y flwyddyn, ond maent hefyd yn gallu codi adborth gyda’u Swyddog Cyfadran a Swyddog Materion Academaidd yr UM.

Beth yw disgwyliadau Cynrychiolydd Academaidd?
Mae bod yn gynrychiolydd academaidd yn rôl syml ond yn un bwysig, sydd ond yn cymryd hyd at 1-2 awr o'ch amser bob wythnos.
Mae'r disgwyliadau'n cynnwys:
- Hyrwyddo'ch rôl ymhlith myfyrwyr a'i gwneud yn glir sut y gallant gysylltu â chi
- Siarad â myfyrwyr a chasglu adborth myfyrwyr
- Mynychu a chymryd rhan mewn tri Phwyllgor Ymgynghorol Staff a Myfyrwyr (un y tymor)
- Rhoi gwybod i’r UM am unrhyw gyflawniadau neu broblemau

Pam ddylwn i ddod yn Gynrychiolydd Academaidd?
Rydyn ni’n credu mai llais y myfyrwyr sydd bwysicaf! Rydyn ni eisiau gweithio gyda chi i sicrhau bod barnau, anghenion a phryderon myfyrwyr yn ffurfio eich Adran, y Brifysgol, a’r Undeb myfyrwyr. Trwy ddod yn Gynrychiolydd Academaidd, byddwch wedi cael eich ethol gan eich cyd-fyfyrwyr i fod y person gorau i arwain ar leisio barn fyfyrwyr.
5 prif reswm i ddod yn Gynrychiolydd Academaidd:
- Gwneud gwahaniaeth yn y Brifysgol, trwy gyflawni newid positif
- Magu ystod o sgiliau o arweinyddiaeth a chyfathrebu, i gasglu a dehongli data
- Cryfhau eich CV a dangos tystiolaeth go iawn o ennill profiad
- Ennill cydnabyddiaeth wirfoddoli trwy ein Gwobr Aber

Pa hyfforddiant a chymorth gaiff eu darparu?
Estynnir gwahoddiad i bob Cynrychiolydd Academaidd fynychu sesiwn hyfforddi gynted y byddant wedi cael eu hethol i'r rôl. Eleni, byddwn yn ail-enwi ein hyfforddiant yn hyfforddiant i ddechreuwyr a dychwelwyr, gan ddibynnu a ydych wedi bod yn Gynrychiolydd Academaidd o'r blaen.
Yn ogystal â hyfforddiant, byddwch yn derbyn cylchlythyr o leiaf unwaith y mis gyda'r wybodaeth ddiweddaraf a chyfleoedd sy'n berthnasol i'ch rôl – bydd hyn yn cynnwys y cyfle i fynychu cynadleddau rhanbarthol a chenedlaethol er mwyn cwrdd â chynrychiolwyr o gyfadrannau eraill.
Mae'r Swyddog Materion Academaidd a'r Cydlynydd Cynrychiolaeth Academaidd hefyd wrth law gydol y flwyddyn i drefnu cyfarfodydd rheolaidd, cyfleoedd ychwanegol am hyfforddiant ac i ddarparu cymorth parhaus os bydd ei angen.

|