Cymorth Trais a Cham-drin Rhywiol

Cymorth Trais a Chamdriniaeth Rhywiol

Trais rhywiol yw’r term cyffredin sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio unrhyw weithred neu weithgaredd rhywiol nad oes ei eisiau, gan gynnwys trais, ymosodiadau rhywiol, cam-drin rhywiol, a llawer mwy.

Mae mynd i’r afael â phob math o drais yn un o’n blaenoriaethu pwysicaf a pharhaol. Rydym yn gweithio gyda’r Brifysgol gyda’r nod o sicrhau bod yna seiliau i wneud yn siwr bod myfyrwyr sy’n profi trais, ni waeth y fath, yn cael eu cefnogi – bu ffocws penodol yn y cyfnod hwn ar sicrhau bod cymorth ar gael i unrhyw un sydd wedi cael eu heffeithio gan drais rhywiol a/neu aflonyddwch yma yn ein cymuned.

Rydym yn awyddus i dynnu eich sylw at dri gwasanaeth/ymyrraeth bwysig rydym am i fyfyrwyr a staff fod yn ymwybodol ohonynt.

1. Gwasanaeth Cymorth Trais Rhywiol ac Aflonyddwch – i gydnabod yr angen am wasanaethau gweledol ac arbennig sy’n hawdd mynd atynt, mae Prifysgol Aberystwyth wedi creu tîm newydd o staff hyfforddedig o’r enw ‘Swyddogion Cyswllt Trais Rhywiol’ (SCTRh / SVLO). Mae sawl aelod staff sydd wedi cael hyfforddi ac yn gymwys i gynnig cymorth i fyfyrwyr sy’n profi trais a/neu aflonyddwch rhywiol, p’un ai’n ddiweddar neu’n y gorffennol yn gweithio ar draws y gwasanaethau myfyrwyr a ResLife. Byddant yn darparu gofal a chymorth eang, yn cynnig gwybodaeth a chefnogi myfyrwyr os ydynt yn cysylltu â phrosesau’r Brifysgol neu’r Heddlu, trafod addasiadau posibl i’w profiad dysgu a myfyrwyr gan gysylltu â chyfeirio’r myfyriwr at y gwasanaethau cymorth addas, er enghraifft ein Canolfan Gyfeirio Ymosodiad Rhywiol lleol (S. Sexual Assault Referral Centre). Gweler aber.ac.uk/cy/studentservices/sexual-violence/

Rydym eisiau i bob aelod o’r gymuned Aber deimlo’n hyderus yn ymateb i rywun sydd yn dod ymlaen ac yn chwilio am help a chymorth. Gyda hyn, mae’r Brifysgol yn parhau Hyfforddiant Ymateb Cyntaf i staff.

2. Adrodd a Chymorth – rydym eisiau sicrhau bod pob myfyriwr yn gallu rhoi gwybod i’r Brifysgol pan mae rhywbeth wedi digwydd iddynt neu i rywun arall, ar neu oddi ar y campws, yn ddiweddar neu’n y gorffennol a’i godi yn ddienw os dyna maent yn dymuno. Mae’r system Adrodd a Chymorth newydd, sydd bellach wedi cymryd lle y Ffurflen Urddas a Pharch ar-lein gynt. Dyma un ffordd mae myfyrwyr (a’u cefnogwyr – ee chi) yn gallu tynnu sylw’r Brifysgol at fater. Caiff yr adrodd wedyn ei rannu’n gyfrinachol gyda’r aelod staff neu wasanaeth mwyaf addas fel eu bod yn gallu cysylltu â’r myfyriwr a chynnig cymorth. Mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch bwlio, aflonyddu a thrais ar y wefan. Byddwn yn rhoi’r diweddaraf i chi wrth i ni ei datblygu ymhellach; gweler https://adroddachymorth.aber.ac.uk/
 

3. Cydsyniad Rhywiol – rydym wedi gweithio’n agos gyda’n cydweithwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth i gyflwyno adnodd Cydsyniad. Cafodd yr adnodd ei ddatblygu gan Brook, yr Elusen Iechyd Rhywiol ac mae’n cael ei ddefnyddio gan nifer o brifysgolion. Byddwn yn annog i fyfyrwyr wneud defnydd o’r adnodd, sydd wedi’i roi ar wefan eu Bwrdd Du, o dan yr enw ‘Cydsyniad yw Popeth’ (S. Consent is everything).


Os ydych chi neu rywun rych chi’n ei nabod wedi profi trais neu gam-drin rhywiol, mae’n bwysig eich bod chi’n ymwybodol o’r Gwasanaethau Cymorth sydd ar gael i chi; maent yn cynnwys:


Sut mae Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber yn gallu cynnig help?

Mae Gwasanaeth Cynghor Undeb Aber yn annibynnol ar y Brifysgol ac yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol a diduedd am ddim i holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.

Mae’r Gwasanaeth Cynghori yn gallu eich helpu mewn sawl ffordd, sy’n cynnwys:

  • Cynnig cyngor diduedd am eich sefyllfa.
  • Eich cyfeirio at ddefnyddio gwasanaethau iechyd rhywiol lleol a sut.
  • Dod gyda chi pan fo’n addas i unrhyw gyfarfod i roi cymorth a chynrychiolaeth.
  • Adolygu unrhyw ddatganiadau drafft rydych chi’n paratoi a chynnig awgrymiadau.
  • Eich helpu i roi tystiolaeth at ei gilydd i gefnogi eich achos.

Cysylltu  Chynghorydd


 

Dolenni defnyddiol


Cynhyrchwyd yn gyntaf: Tachwedd 2022

Adolygwyd: Hydref 2026

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576