Pa gymorth sydd ar gael

Os ydych chi'n meddwl eich bod chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod wedi dioddef achosion o fwlio, aflonyddu neu drais, mae amryw opsiynau o ran cymorth ar gael.

 

Cymorth gan y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr

  • Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd. Gall ymgynghorydd eich tywys drwy weithdrefnau'r Brifysgol, sut mae gwneud cwyn a pha gymorth sydd ar gael, a'r cyfan yn gyfrinachol.
  • Gwasanaeth Cynghori UMAber. Mae hwn yn wasanaeth cyfrinachol a diduedd, rhad ac am ddim, lle gall ymgynghorydd eich tywys drwy'r opsiynau sydd ar gael a rhoi cymorth i chi ddelio â gweithdrefnau’r Brifysgol. Mae'r cymorth hwn yn cynnwys gwirio cwynion drafft a mynychu unrhyw gyfarfodydd gyda'r Brifysgol.

 

Ffynonellau cymorth eraill

  • Mae Llwybrau Newydd yn darparu llu o wasanaethau cwnsela ac eirioli arbenigol i oroeswyr trais neu gam-drin rhywiol. Maen nhw hefyd yn gweithredu Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol y gall dioddefwyr trais neu ymosodiad rhywiol diweddar gael cymorth a chefnogaeth ar unwaith.
  • Mae Bywydau Teulu yn darparu gwybodaeth a chyngor ar fwlio yn y Brifysgol.
  • Mae Cyngor ar Bopeth yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am y gwahanol fathau o aflonyddu a throsedd casineb y gall pobl eu hwynebu, gan gynnwys trosedd casineb yn erbyn pobl anabl, trosedd casineb ar sail hil a chrefydd, aflonyddu rhywiol a throsedd casineb ar sail tueddfryd rhywiol a hunaniaeth drawsryweddol.
  • Mae Gwasanaeth Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru yn darparu amryw o wasanaethau cymorth i bobl sy'n dioddef cam-drin domestig neu sydd wedi wynebu cam-drin domestig.
  • Mae True Vision yn cynnig arweiniad ar adrodd am droseddau casineb a digwyddiadau casineb. Os nad ydych chi am siarad â rhywun yn bersonol am y digwyddiad neu os ydych am barhau'n ddienw, mae ffurflen ar-lein ar gyfer adrodd am drosedd casineb; cewch roi gwybod i'r heddlu am ddigwyddiadau casineb nad ydynt yn droseddau er mwy ceisio eu hatal rhag mynd yn ddifrifol.
  • Gwasanaeth cyhoeddus yw Tell MAMA sy'n rhoi cymorth i ddioddefwyr casineb gwrth-Fwslimaidd ac yn mesur a monitro digwyddiadau gwrth-Fwslimaidd.
  • Mae'r Ymddiriedolaeth Ddiogelwch Cymunedol yn helpu'r rheiny sy'n dioddef casineb, aflonyddu neu ragfarn gwrth-Semitaidd.
  • Elusen yw Galop sy'n rhoi cymorth i bobl lesbïaidd, hoyw, deu, traws a chwîar sydd wedi dioddef o achos trais rhywiol.
  • Cymorth i Fenywod Cymru yw'r elusen genedlaethol yng Nghymru sy'n gweithio i roi terfyn ar gam-drin domestig a phob math o drais yn erbyn menywod.
  • Gall y Llinell Gymorth Genedlaethol Stelcian roi gwybodaeth i chi ynglyn â chyngor a chefnogaeth a'r opsiynau sydd ar gael i chi.
  • Llinell gynghori yw MALE ar gyfer dynion sydd wedi dioddef cam-drin domestig.
  • Mae Stonewall Cymru yn ymgyrchu dros gydraddoldeb i bobl lesbïaidd, hoyw, deu a thraws ledled Prydain, gan roi cymorth a chyngor i gymunedau LHDT a'u cefnogwyr.
  • Mae Scope yn darparu cymorth ymarferol ac emosiynol i sicrhau cydraddoldeb a thegwch i bob person anabl.
  • Timau Plismona Cymdogaeth. Ar wefan Heddlu Dyfed-Powys mae rhestr o Dimau Plismona Cymdogaeth ym mhob ardal o Aberystwyth. Cewch gysylltu â nhw a/neu drefnu ymweliad.
  • Cymorth i Ddioddefwyr. Pan fyddwch chi'n rhoi gwybod i'r heddlu am drosedd, dylen nhw ofyn yn awtomatig i chi os hoffech chi gael cymorth gan fudiad fel Cymorth i Ddioddefwyr, ond gall unrhyw un sydd wedi dioddef trosedd gysylltu â nhw'n uniongyrchol – does dim angen i chi siarad â'r heddlu i gael cefnogaeth gan fudiad Cymorth i Ddioddefwyr.

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576