Mae'r rôl hon yn canolbwyntio ar hyrwyddo diwylliant Cymru gan roi cyfle i fyfyrwyr Aber ddysgu, siarad a byw'r iaith.
Bydd y Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA yn gyfrifol am y canlynol:
- Sicrhau cynrychiolaeth ddigonol o'r diwylliant Cymreig a'r iaith Gymraeg yn Undeb y Myfyrwyr a sicrhau bod y polisi dwyieithrwydd yn cael ei hyrwyddo.
- Cydlynu gweithgareddau ac ymgyrchoedd sy'n ymwneud â buddiannau siaradwy y Gymraeg a dysgwyr.
- Cynrychioli anghenion yr aelodau mewn Neuaddau Preswyl cyfrwng Cymraeg.
- Sicrhau bod Undeb Aberystwyth yn cael ei gadw'n gyfoes ynghylch materion lleol a chenedlaethol sy'n effeithio ar fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith.
- Lobïo UCM i ddarparu cynrychiolaeth ddigonol o'r diwylliant Cymreig a'r iaith Gymraeg.
- Gweithio gyda Phrif Weithredwr ac uwch dîm rheolaeth Undeb Aberystwyth i gyflawni a ffurfio amcanion a deilliannau strategol.
- Mynychu Pwyllgorau priodol y Brifysgol. h. Cwrdd yn rheolaidd gydag adrannau perthnasol y Brifysgol i hyrwyddo anghenion siaradwyr Cymraeg a'r rheiny sy'n dysgu'r iaith.
Yn sgil pleidlais yn Cyf Cyff yr Undeb fis Mawrth 2025, caiff y swydd hon ei newid i:Llywydd UMCA.
Yn ystod Etholiadau’r Gwanwyn 2026, bydd myfyrwyr yn sefyll am y swyddi hyn a phleidleisio drostynt, a bydd y rheini gaiff eu hethol yn dechrau fis Gorffennaf 1af 2026.
Mae rhestr isod o flaenoriaethau y mae Nanw yn gweithio arnynt eleni yn ogystal â’r cynnydd mae e wedi’i wneud hyd yma…