Cyngor ar addurno dy ystafell yn y neuadd breswyl

#HeloAber Mae’n bwysig cofio mai dy gartref oddi gartref fydd y Brifysgol felly mae’n werth ymgartrefu. Mae hawlio’r lle yn dy ffordd dy hun gyda phethau meddal ac aroglau cyfarwydd yn gallu helpu i ti ymgartrefu’n gynt, felly mae’n helpu treulio’r amser ychwanegol i greu cartref i ti dy hun. Dyma rai syniadau i’w cofio pan yn symud i mewn i dy dy dros dro newydd.

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Mae’n bwysig cofio mai dy gartref oddi gartref fydd y Brifysgol felly mae’n werth ymgartrefu. Mae hawlio’r lle yn dy ffordd dy hun gyda phethau meddal ac aroglau cyfarwydd yn gallu helpu i ti ymgartrefu’n gynt, felly mae’n helpu treulio’r amser ychwanegol i greu cartref i ti dy hun.

 

Dyma rai syniadau i’w cofio pan yn symud i mewn i dy dy dros dro newydd.

 

  • Goleuadau Tylwyth Teg sydd gyda batri
  • Clustogau a blancedi meddal
  • Defnyddio papur wal dros fyrddau pin i’w gwneud yn fwy diddorol
  • Defnyddio gwinwydden a garlant i guddio unrhyw bibellau
  • Rhywbeth i wneud gyda dy ddiddordebau
  • Cardiau post neu gardiau pen-blwydd
  • Carthen i guddio unrhyw loriau hyll eu golwg
  • Llinynnau bach i roi lluniau i fyny arnynt
  • Tlysau bach i roi yma ac acw o gwmpas dy ddesg
  • Blodau/gwyrddni i oleuo’r ystafell
  • Argraffu lluniau trwy argraffiadau am ddim o dy fwrdd Pintrest i greu gludwaith ar y wal
  • Rhywbeth i ledaenu arogl cartrefol – tryledwr cyrs (S. Reed diffuser) – ond paid ag anghofio – dim ond peraroglau y gellir eu rhoi i mewn soced a ni chaniateir unrhyw fflamau noeth yn neuaddau y Brifysgol
  • Paid ag anghofio y dylet ti adael dy ystafell fel y bu i ti gael dy flaen-dal yn ôl. Felly mae’n well i ti osgoi defnyddio deunydd a fydd yn gadael marc neu ddifrodi’r waliau.


Gwnewch yn siwr eich bod yn ymuno â'n grwp facebook glasfyfyrwyr yma: http://www.facebook.com/groups/heloaber2022

a dilynwch ein holl sianeli cyfryngau cymdeithasol @umabersu

Edrychwch ar ein digwyddiadau glasfyfyrwyr yma: https://www.umaber.co.uk/ents/

#HeloAber

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576