Llywydd Undeb

Millie Hackett​Llywydd Undeb

"Millie yw llais cyhoeddus Undeb y Myfyrwyr a myfyrwyr Aberystwyth."

Eleni, bydd Millie yn canolbwyntio ar wella'r Undeb at y dyfodol a sicrhau bod llais y myfyrwyr yn cael ei glywed.

E-bost: prdstaff@aber.ac.uk

Fy Rôl

 

Bydd Llywydd yr Undeb yn gyfrifol am y canlynol:

  • Cadeirio Bwrdd yr Ymddiriedolwyr ac unrhyw is-grwpiau perthnasol lle cyfeirir at hynny.
  • Sicrhau bod Tîm y Swyddogion yn adolygu materion allweddol myfyrwyr yn ogystal â materion cynrychioladol a gwleidyddol yn rheolaidd yn unol â'r aelodaeth bresennol
  • Sicrhau bod pob myfyriwr yn cael eu cynrychioli ac nad ydynt yn cael eu hallgau rhag Undeb Aberystwyth
  • Datblygu ac asesu Cynllun Strategol Undeb Aberystwyth ar y cyd â'r Prif Weithredwr.
  • Gweithio gyda Phrif Weithredwr ac uwch dîm rheolaeth Undeb Aberystwyth i gyflawni a ffurfio amcanion a deilliannau strategol.
  • Sicrhau y caiff Aelodau Undeb Aberystwyth eu cynrychioli ar lefel genedlaethol drwy gydlynu ymgysylltiad ag UCM ac UCM Cymru.
  • Hyrwyddo gwaith ac amcanion Undeb Aberystwyth yn gadarnhaol drwy weithredu fel llefarydd yr Undeb wrth ddelio â rhanddeiliaid a'r cyfryngau.
  • Mynychu Pwyllgorau priodol y Brifysgol.

 

Pwyllgorau’r Brifysgol / Cyfarfodydd a Fynychwyd:

 

  • Cyngor y Brifysgol
  • Senedd
  • Bwrdd Academaidd
  • Pwyllgor Buddsoddiadau
  • Bwrdd Recriwtio a Marchnata
  • Grwp Dyfarniadau er Anrhydedd

 


Blaenoriaethau Presennol

Mae rhestr isod o flaenoriaethau y mae Millie yn gweithio arnynt eleni yn ogystal â’r cynnydd mae e wedi’i wneud hyd yma…

 

Bydd myfyrwyr Aberystwyth yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a'u cynrychioli. Byddwn yn siarad â myfyrwyr yn rheolaidd er mwyn deall yr heriau y maent yn eu hwynebu, gan sicrhau fod gennym yr wybodaeth sydd ei hangen i'w chyflwyno i'r Brifysgol ac arwain gwaith yr Undeb.

 

 

Fe wnaiff myfyrwyr Aberystwyth feithrin sgiliau cyflogadwyedd a’u dangos trwy fentrau’r Brifysgol a’r Undeb.

  • Caiff myfyrwyr eu cydnabod yn llawn yn unrhyw gofnodion sgiliau cyflogadwyedd newydd y Brifysgol am gymryd rhan yn UndebAber.
  • Gweithio ar y cyd gyda gofalwyr i greu digwyddiadau deniadol i hyrwyddo cyflogadwyedd a menter.
  • Gwella cofnodi unrhyw sgiliau cyflogadwyedd a enillir gan fyfyrwyr tra’n gwirfoddoli neu’n gweithio.
  • Cyfrannu’n gadarnhaol at fentrau cyflogadwyedd y Brifysgol.
   

A ddylai Prifysgol Aberywtyth newid Starbucks gyda brand o goffi lleol sy’n fwy cynaliadwy*

----------

A ddylai UndebAber a’r Brifysgol droi’r gerddi botaneg yn ‘Gerddi Botaneg Penglais’, yn fan egnïol, cynhyrchiol ar gyfer gwyddoniaeth, dysgu a lles?*

----------

Dylem ni gynnal wythnos SHAG bob blwyddyn. *

----------

Gwaith Yw Gwaith Rhyw, A Dyna Fe*

----------

Mae * yn dynodi polisi a basiwyd yn ddemocrataidd gan fyfyrwyr Aberystwyth.  Darganfod mwy 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576