Mae'r rôl yn rhoi sylw penodol i ddarparu myfyrwyr Aber â'r profiad gorau posib a chynnig mwy na dim ond gradd.
Bydd y Swyddog Cyfleoedd Myfyrwyr yn gyfrifol am y canlynol:
- Cynrychioli corff y myfyrwyr ar faterion sy'n ymwneud â chwaraeon, cymdeithasau, gwirfoddoli a chyflogadwyedd.
- Cydlynu gweithgareddau ac ymgyrchoedd sy'n ymwneud â chwaraeon, cymdeithasau, gwirfoddoli a chyflogadwyedd.
- Ffurfio sail ar gyfer polisïau'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr ynghylch materion sy'n ymwneud â chwaraeon, cymdeithasau, gwirfoddoli a chyflogadwyedd.
- Cynorthwyo a datblygu rhwydwaith o glybiau a chymdeithasau drwy gadeirio'r Parth Chwaraeon a Chymdeithasau.
- Gweithio gyda Phrif Weithredwr ac uwch dîm rheolaeth Undeb Aberystwyth i gyflawni a ffurfio amcanion a deilliannau strategol.
- Mynychu Pwyllgorau priodol y Brifysgol. g. Mynychu cyfarfodydd rheolaidd ag adrannau perthnasol y Brifysgol i ddatblygu buddiannau clybiau, cymdeithasau, gwirfoddoli a chyflogadwyedd.
Yn sgil pleidlais yn Cyf Cyff yr Undeb fis Mawrth 2025, caiff y swydd hon ei newid i: Llywydd Cyfleoedd . Yn ystod Etholiadau’r Gwanwyn 2026, bydd myfyrwyr yn sefyll am y swyddi hyn a phleidleisio drostynt, a bydd y rheini gaiff eu hethol yn dechrau fis Gorffennaf 1af 2026.
Mae rhestr isod o flaenoriaethau y mae Ffion yn gweithio arnynt eleni yn ogystal â’r cynnydd mae e wedi’i wneud hyd yma.