Mae ei rôl hi'n rhoi sylw penodol i hyrwyddo buddiannau academaidd ein myfyrwyr.
Bydd y Swyddog Materion Academaidd yn gyfrifol am y canlynol:
- Cynrychioli corff y myfyrwyr ar faterion sy'n ymwneud â materion academaidd, gan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol ac ôlraddedig, ac ehangu cyfranogiad.
- Cydlynu gweithgareddau ac ymgyrchoedd sy'n ymwneud â materion academaidd. Ffurfio sail ar gyfer polisïau'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr ynghylch materion sy'n ymwneud â materion academaidd.
- Cynorthwyo a datblygu rhwydwaith o gynrychiolwyr academaidd drwy gadeirio'r Fforwm Academaidd.
- Gweithio gyda Phrif Weithredwr ac uwch dîm rheolaeth UMPA i gyflawni a ffurfio amcanion a deilliannau strategol.
- Mynychu Pwyllgorau priodol y Brifysgol.
- Mynychu cyfarfodydd rheolaidd ag adrannau perthnasol y Brifysgol i ddatblygu buddiannau academaidd.
Yn sgil pleidlais yn Cyf Cyff yr Undeb fis Mawrth 2025, caiff y swydd hon ei newid i: Llywydd Academaidd. Yn ystod Etholiadau’r Gwanwyn 2026, bydd myfyrwyr yn sefyll am y swyddi hyn a phleidleisio drostynt, a bydd y rheini gaiff eu hethol yn dechrau fis Gorffennaf 1af 2026.
Mae rhestr isod o flaenoriaethau y mae Esperanza yn gweithio arnynt eleni yn ogystal â’r cynnydd mae hi wedi’i wneud hyd yma.