|
Cadeirydd yr Undeb

Tomos Akash Padel
Dwi’n rhedeg er eich budd CHI! Bydd fy mholisïau yn creu Aber saffach, mwy cynhwysol, a rhatach i CHI!
|
|
Pa nodweddion personol fyddech chi'n eu cyfrannu at y rôl?
Heia, Tomos ‘dwi! Dwi’n sefyll i fod yn Gadeirydd yr Undeb! Byddwn yn dod â thegwch, amynedd, a sgiliau gwrando cryf i’r swydd. Dwi’n mwynhau arwain trafodaethau, ond dwi’n gwerthfawrogi gwrando’n fwy fyth, a bydda’ i bob tro yn sicrhau fod pawb yn cael y cyfle i rannu ei farn, is-raddedigion ac ôl-raddedigion fel ei gilydd.
Dysgodd fy mhrofiad i fi, fel cadeirydd ar undeb myfyrwyr fy ngholeg, sut mae undeb yn gweithio a pha mor bwysig yw sefyll dros fyfyrwyr. Mae fy ngwaith gydag elusennau a sefydliadau cymunedol wedi fy helpu i feithrin sgiliau mewn trefnu, cefnogi pobl, a magu partneriaethau cadarnhaol. Dyma’r sgiliau a fydd o fudd i fi wrth redeg y Senedd yn rhwydd a sicrhau fod llais y myfyrwyr yn cael ei glywed!
Pan fydd raid gwneud penderfyniadau, dydw’i ddim ar fy mhen fy hun; af ati i siarad â’r rheiny yr effeithir arnynt, a sicrhau fod eu syniadau yn llywio’r canlyniad. Gan fod cyfarfodydd y Senedd yn agored, hoffwn i eu gwneud yn fan mwy agored a chroesawus lle gall myfyrwyr deimlo’n gyfforddus i gymryd rhan.
Yn gyffredinol, dwi eisiau magu Aber fwy cynhwysol, cefnogol lle caiff pob llais ei glywed, ei werthfawrogi, a’i groesawu!
|
|
Beth yw’r 3 mater pennaf sy’n effeithio ar fyfyrwyr?
Y tri phrif mater rwy’ am fynd i’r afael â nhw yw diogelwch, ennyn cyfranogiad, a fforddadwyedd. Yn gyntaf, mae arnom angen am Aber saff, heb sbeicio diodydd. Dylai myfyrwyr gael teimlo’n hyderus ar noson allan, felly dwi am weithio gyda lleoliadau, yr Undeb a’r Brifysgol i wella atal, adrodd, a chefnogaeth.
Yn ail, mae eisiau denu mwy i’r Senedd arna’ i. Mae gormod o fyfyrwyr heb ddealltwriaeth o’r hyn mae’r Senedd yn ei wneud, neu sut mae cymryd rhan. Fe weithia’ i i wneud cyfarfodydd yn fwy hygyrch a chroesawus, a’u hysbysebu’n well, fel bod myfyrwyr yn teimlo’n hyderus i gymryd rhan a llywio penderfyniadau.
Yn olaf, mae rhaid i’r campws fod yn rhatach. Gyda chostau ar gynnydd, mae myfyrwyr yn ei chael hi’n anodd gyda bwyd, rhent a hanfodion. Dwi eisiau pwyso am gefnogaeth gliriach, gwell wasanaethau, a chamau ymarferol sy’n gwneud eich bywyd bob dydd yn llai drud.
|
|
|
Swyddog yr Iaith Gymraeg

Elliw Mair
Fel y nodais ynghynt, mae fy mlaenioraethau yn sefyll gyda myfyrwyr Cymraeg. Dwi’n gweithio’n galed i sicrhau cydraddoldeb i fyfyrwyr Cymraeg yn eu gwlad eu hunain. Dwi’n awyddus i barhau gyda’r gwaith drwy ail sefyll a sicrhau llais i fyfyrwyr Cymraeg.
|
|
Pa nodweddion personol fyddech chi'n eu cyfrannu at y rôl?
Dwi’n berson gweithgar ac angerddol tuag at yr iaith sy’n nodweddion hanfodol bwysig ar gyfer y rôl.
|
|
Beth yw’r 3 mater pennaf sy’n effeithio ar fyfyrwyr?
Pwysau costau byw a thrafferthion ariannol - Mae tua 1 o bob 10 myfyriwr yn defnyddio banciau bwyd oherwydd costau tai, sydd ddim yn dderbyniol.
Problemau iechyd meddwl a lles - Adroddodd 122,500 o fyfyrwyr y DU cyflwr iechyd meddwl yn 2023/24, felly mae’n rhaid ei daclo.
Cyrhaeddiad addysgol ac anghydraddoldeb - Yn benodol i fyfyrwyr Cymraeg. Does gan y Brifysgol ddim syniad pa mor anodd gall hi fod i wneud gradd yn dy ail iaith (drwy’r Saesneg). Mae’n rhaid eu gneud yn ymwybodol o’r trafferthion hyn, ynghyd a denu sylw at ansawdd wael yr addysg cyfrwng Cymraeg mewn rhai adrannau.
|
|
|
Swyddog yr Amgylchedd a Chynaladwyedd

Joshua Brownbridge
Bydda’ i’n darparu sianel ystyrlon i fyfyrwyr is-radd ac ôl-radd fynegi pryderon amgylcheddol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
|
|
Pa nodweddion personol fyddech chi'n eu cyfrannu at y rôl?
Dwi’n frwd iawn dros yr amgylchedd ac ecoleg, yn meddu ar ddealltwriaeth o’r heriau amgylcheddol rydyn ni’n eu hwynebu, a gallaf dynnu ar syniadau ar sut i fynd i’r afael â nhw. Ar ben hynny, af ati i holi barn y myfyrwyr, a defnyddio hyn at bledio achos dros fwy o weithredu dros yr amgylchedd. Trwy roi’r man hwn i fyfyrwyr, fe gredaf y gallwn gyflawni llawer.
|
|
Beth yw’r 3 mater pennaf sy’n effeithio ar fyfyrwyr?
Byddaf yn ymgyrchu dros ddiffodd mwy o olau ar y campws pan na fydd ystafelloedd yn cael eu defnyddio. Bydd hyn o fudd i gyllid y brifysgol, tra hefyd yn helpu gwella arferion cynaladwyedd amgylcheddol Prifysgol Aberystwyth.
I annog mwy o ailgylchu, byddaf yn ymdrechu i gael peiriannau, a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr ailgylchu gwydr, metel, a phlastig yn gyfnewid am fynediad i gystadlaethau/tocynnau. Hefyd, byddaf yn pwyso am well wahanu ailgylchu a gwastraff cyffredinol, ar gyfer biniau dan do a’r tu allan.
Byddaf yn awgrymu i becynnau bwyd mwy cynaliadwy amgylcheddol gael eu defnyddio yn Undeb y Myfyrwyr, a’r campws ehangach.
|
|
|
Swyddog yr Amgylchedd a Chynaladwyedd

Kyra Ellis
Byddaf yn ein llywio tuag at heddiw mwy cynaliadwy, gan greu syniadau a strategaethau dewr i gyflawni newid amgylcheddol hir dymor.
|
|
Pa nodweddion personol fyddech chi'n eu cyfrannu at y rôl?
Mae’r amgylchedd ar flaen fy meddwl ers erioed, a hynny’n cael ei gynrychioli yn fy ngwaith gwirfoddol gydag amryw o ymddiriedolaethau megis yr RSPB a’r Ymddiriedolaeth Natur. Dwi’n siaradwr hyderus a hynny i’w weld wrth i fi ddysgu 20-30 plentyn awyddus gyda thîm mewn labordy gwyddonol fel fy swydd y tu allan i’r Brifysgol. Mae gennyf i sgiliau trefnu gwych trwy drefnu digwyddiadau i godi arian at CBUK a Gwarchodfa Natur Jacksons, gan brofi y galla’ i drefnu digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth o elusennau lleol a materion amgylcheddol. Un cyfeillgar fy natur ‘dwi sy’n ei gwneud hi’n hawdd i fi feithrin cysylltiad gydag unrhyw un.
|
|
Beth yw’r 3 mater pennaf sy’n effeithio ar fyfyrwyr?
1. Iechyd meddwl, yn enwedig yn ystod cyfnod yr arholiadau – oedi wrth wneud dim, straen, hunanamau, gor-bryder ac iselder.
2. Poenau ariannol nad yw pawb yn teimlo y gall ei drafod yn agored.
3. Diffyg hunanhyder i’ch bwrw eich hun i gymdeithasau newydd a chwrdd â phobl newydd ar eich pen eich hun a gall hynny waethygu hiraeth. Mae modd cefnogi’r holl faterion hyn a chodi ymwybyddiaeth yn eu cylch fel nad yw pobl yn teimlo’n unig wrth wynebu’r heriau hyn.
|
|
|
Swyddog y Myfyrwyr LHDTC+

Bryn Talbot
Dylech bleidleisio drostof i gan y gwnaf i bopeth ag y gallaf dros Aberystwyth saffach a balchach ar gyfer pob myfyriwr waeth o ble maent yn dod neu bwy ydynt
|
|
Pa nodweddion personol fyddech chi'n eu cyfrannu at y rôl?
Dwi’n anneuaidd (ei/nhw), yn ddeurywiol ac yn rhan weithgar o’r gymuned LHTDC+ ers blynyddoedd a finnau yn ymgyrchu dros fynnu i’n hawliau gael eu clywed ers erioed Dwi’n rhedeg y Gymdeithas Falchder ers blwyddyn bellach, ac dwi’n gweithio â grwpiau lleol yn ddiweddar (Prosiect LUNA yn benodol) i gyfeirio myfyrwyr ato ar gyfer cymorth ychwanegol ond hefyd ar gyfer digwyddiadau codi arian ac ymgyrchu hy ar gyfer Diwrnod Cofio Pobl Draws (20 Tachwedd) ond hefyd ynghylch deddfwriaeth megis y gwaharddiad diweddar ar doiledau oddi wrth y llys.
|
|
Beth yw’r 3 mater pennaf sy’n effeithio ar fyfyrwyr?
Iechyd meddwl - mae hi’n llym ar fyfyrwyr, ac yn enwedig ar fyfyrwyr LHDTC+ Mae pwysau gwaith prifysgol yn prysur bentyrru Heb sôn yn olaf am lety, bydda’ i’n clywed yn gyson fod myfyrwyr yn poeni am lety a’i fod yn eu cadw ar ddi-hun ac yn dwyn eu sylw oddi ar fwynhau’r brifysgol.
|
|
|
Swyddog y Menywod

Emma Fawcett
Fel ffeminydd sy’n ymdrechu dros newid ar unwaith, mae arnaf i eisiau’r gallu i sicrhau fod pob menyw yn cael profiad saff, cynhwysol a hwyliog yn y brifysgol.
|
|
Pa nodweddion personol fyddech chi'n eu cyfrannu at y rôl?
Byddai’r sbardun sydd ynof i wneud newid, fy sgiliau cyfathrebu, fy natur empathetig, a fy ffeministiaeth o fantais ac yn cael eu gwella trwy ddod yn swyddog y menywod, gan y byddai’r rhain oll yn angenrheidiol a buddiol iawn ar gyfer amlygu materion y mae menywod yn eu hwynebu yn y Brifysgol a gweithio tuag at wella’r profiadau hyn.
|
|
Beth yw’r 3 mater pennaf sy’n effeithio ar fyfyrwyr?
Gellid dadlau mai cynwysoldeb, arian a diogelwch yw’r tri phrif fater sy’n cael effaith ar fyfyrwyr, gan y gall rhain oll wneud y gwahaniaeth rhwng ffynnu neu ddifetha profiad rhywun yn y brifysgol. Oherwydd hyn, mae’n bwysig fod y rheiny sydd mewn safle o rym yn cadw bywyd myfyriwr yn saff, cynhwysol a fforddiadwy.
|
|
|
Swyddog y Menywod

Jessica Pritchard
Dwi’n hyderus, angerddol ac awyddus i hyrwyddo llesiant a hawliau menywod yn y Brifysgol.
|
|
Pa nodweddion personol fyddech chi'n eu cyfrannu at y rôl?
Dwi’n gryf, ond yn bwyllog wrth leisiau’r problemau a’r atebion sydd o bwys i fi, ac dwi’n ddyfalbarhaus wrth sicrhau ateb i’r problemau hynny a bod yr atebion hynny yn cael eu gweithredu. Dwi’n selog dros hawliau menywod, a dros amddiffyn menywod yn enwedig ym maes addysg. Dwi wedi ymrwymo yn llwyr i ymchwilio a deall y problemau sy’n dod i law, gan sicrhau fy mod i’n mynd i’r afael mor effeithiol ac effeithlon â phosib. Dwi’n ceisio bod yn wrandäwraig astud pan fo angen, fel y gall y rheiny sy’n siarad â fi deimlo’n gyfforddus a’u bod yn cael eu clywed. Galla’ i wrando ar adborth a’i gydnabod, ac asesu y ffordd rwy’n integreiddio adborth yn fy ymdrechion yn y dyfodol.
|
|
Beth yw’r 3 mater pennaf sy’n effeithio ar fyfyrwyr?
Tra bod Aberystwyth, gan gynnwys ei phrifysgol, yn lle saff a chynhwysol iawn i fenywod, mae heriau yn ymwneud â thrais ar sail rhywedd yn dal i ddigwydd o hyd. O siarad â myfyrwyr a ffrindiau eraill, mae menywod yn dal i brofi aflonyddu a (er yn brin) sbeicio ar nosweithiau allan. Yn ôl yr adroddiad ar gydraddoldeb ar gyfer 2023-2024, roedd 9.5% o’r myfyrwyr a dynnodd yn ôl o’r brifysgol yn draws (sef 4.3% o gynnydd ers y flwyddyn gynt). Mae menywod traws a dynion traws yn dioddef o gasineb at wragedd, a hoffwn i fynd i’r afael ag unrhyw faterion sy’n cael effaith ar brofiad myfyrwyr traws yn Aberystwyth. Yn yr un modd, dylid bob tro ymdrechu i dynnu menywod i mewn i STEM, hyd yn oed os nad prif ffocws eu haddysg ydyw, ac dwi’n credu bod menywod yn dal i gredu nad oes anogaeth iddynt ddilyn trywydd STEM hyd yn oed fel gweithgarwch tu allan i’w cyrsiau.
|
|
|
Swyddog y Menywod

Natasha Goodwin and Ava Conlon
Rydyn ni’n teimlo’n gryf am yr ymgyrchoedd presennol ac eisiau parhau â gwella bywyd myfyriwr.
|
|
Pa nodweddion personol fyddech chi'n eu cyfrannu at y rôl?
Mae Ava a Tasha yn teimlo’n angerddol am hawliau menywod a gwella bywyd i fenywod. Mae Ava yn gweithio tuag at fynd yn OBGYN ac yn arbenigwraig ar iechyd menywod a Tasha yw swyddog y menywod presennol, mae wedi bod yn gweithio tuag at ymgyrch gwrth-sbeicio diodydd a bydd yn parhau â hyn.
|
|
Beth yw’r 3 mater pennaf sy’n effeithio ar fyfyrwyr?
- Mater blaenllaw yw sbeicio - Arian, fe wyddem i gyd y gall fod yn anodd ffynnu yn y Brifysgol gyda’r arian a roddir i ni.
- Iechyd Meddwl
|
|
|
Swyddog y Myfyrwyr Anabl

John Hinchliff
Gwella cynrychioli anableddau.
|
|
Pa nodweddion personol fyddech chi'n eu cyfrannu at y rôl?
Dwi’n fyfyriwr ôl-radd ag anabledd gorfforol sydd hefyd yn niwroamrywiol. Mae gennyf i brofiad o sut mae rhaid i anghenion ychwanegol myfyrwyr anabl gael eu diwallu a sut mae’r brifysgol yn rhyngweithio gyda ni.
|
|
Beth yw’r 3 mater pennaf sy’n effeithio ar fyfyrwyr?
Gwella dibynadwyedd y lifftiau a sicrhau fod amserlennu yn deall anghenion symudedd myfyrwyr er mwyn sicrhau fod pob myfyriwr yn gallu cael mynediad Sicrhau fod myfyrwyr niwroamrywiol yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Sicrhau y caiff hawl cyfreithiol pob myfyriwr i gydraddoldeb ei barchu.
|
|
|
Swyddog y Myfyrwyr Anabl

Nick Green
Oherwydd y gwnaf fy orau glas i wasanaethu’r rhai sy’n ei gweld hi’n anodd.
|
|
Pa nodweddion personol fyddech chi'n eu cyfrannu at y rôl?
Gonestrwydd, Profiad, Ymdrech
|
|
Beth yw’r 3 mater pennaf sy’n effeithio ar fyfyrwyr?
Mynediad gwael, Pryder ynghylch yr amgylchedd a dirywiad amgylcheddol Marchnata diwylliannol
|
|
|
Swyddog y Myfyrwyr Croenddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig

Anisa Mudassar
Fel cynrychiolydd DALlE, byddwn yn gefn i chi. Dwi’n gwybod sut deimlad yw teimlo allan o le, byddai’n pleidleisio drostof i yn golygu cael rhywun a fydd yn eich cefnogi.
|
|
Pa nodweddion personol fyddech chi'n eu cyfrannu at y rôl?
Dwedwn i fy mod i’n agored fy meddwl ac yn hoff o siarad gyda phobl. Byddai’r nodweddion, yn fy marn i, yn werthfawr ac yn addas i’r safle gan y byddwn yn gwneud pobl yn gartrefol a chysylltu â nhw, gan obeithio i’w galluogi i deimlo’n gyfforddus a siarad yn agored am eu profiadau eu hun.
|
|
Beth yw’r 3 mater pennaf sy’n effeithio ar fyfyrwyr?
Unigrwydd, Datgysylltiad a Pherthyn. Mae bod yn berson o liw mewn gwlad â mwyafrif croenwyn fel arfer yn golygu eich bod chi’n wahanol. Mae pawb eisiau ffeindio ei le, a theimlo ei fod yn perthyn, a gallaf uniaethu â’r frwydr o bontio’r rhaniad diwylliannol hwnnw. Fel cynrychiolydd DALlE, fy ngobaith fyddai rhoi ar ddeall fod croeso i bawb a gobeithio eu bod yn teimlo allan o le ychydig yn llai.
|
|
|
Swyddog y Myfyrwyr Rhyngwladol

Ebenezer Smith Baidoo
Pleidleisiwch drostof i fel y Swyddog Myfyrwyr Rhyngwladol oherwydd y byddaf yn gwrando, gweithredu, a sicrhau fod myfyrwyr rhyngwladol yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u cynnwys yn y Brifysgol.
|
|
Pa nodweddion personol fyddech chi'n eu cyfrannu at y rôl?
Down i ag empathi, dibynadwyedd, a sgiliau cyfathrebu cryf ar draws diwylliannau i waith y Swyddog Myfyrwyr Rhyngwladol. Fel un sy’n deall heriau addasu i amgylchedd academaidd a chymdeithasol newydd, dwi’n amyneddgar, agos-atoch, ac yn sylwgar i anghenion unigolion. Dwi’n hynod drefnus a chyfrifol, sy’n caniatáu i fi reoli gwybodaeth yn fanwl a chefnogi myfyrwyr yn effeithiol. Dwi’n gwerthfawrogi cynhwysiant ac yn gwrando’n astud ar wahanol safbwyntiau, gan sicrhau fod myfyrwyr rhyngwladol yn teimlo eu bod yn cael eu clywed, eu parchu, a’u cefnogi. Yn ogystal â hynny, dwi’n weithgar ac mae fy ffocws ar atebion, byddaf bob tro yn fodlon ceisio cyngor neu gydweithio gydag eraill i ateb materion. Gydag ymagwedd gadarnhaol ac ymrwymiad go iawn i lesiant myfyrwyr, fy nod yw meithrin amgylchedd croesawus a chefnogol i’r holl fyfyrwyr rhyngwladol.
|
|
Beth yw’r 3 mater pennaf sy’n effeithio ar fyfyrwyr?
Costau Byw a Phwysau Ariannol Iechyd Meddwl a Llesiant - fel prifysgolion lawer yng Ngwledydd Prydain, mae myfyrwyr yn wynebu straen a phwysau iechyd meddwl yn deillio o faich gwaith academaidd, unigrwydd, a rheoli arian. Mae gwasanaethau cymorth i’w cael, ond bod galw mawr ac mae rhai myfyrwyr yn sôn am heriau wrth gael gafael ar help prydlon.
Adnoddau Llyfrgell ac Astudio - Mae myfyrwyr wedi codi pryderon ynghylch lleihau oriau mewn llefydd astudio allweddol sef Llyfrgell Hugh Owen, a all gael effaith ar drefn astudio a pherfformiad academaidd.
|
|
|
Swyddog Myfyrwyr Annibynnol

Jack Squire
Dwi wedi ei chael hi’n anodd fel myfyriwr annibynnol, a byddaf yn manteisio ar y profiad hwnnw at sicrhau nad oes yr un llais heb ei glywed!
|
|
Pa nodweddion personol fyddech chi'n eu cyfrannu at y rôl?
Mae gennyf i brofiad fel myfyriwr wedi’i ymddieithrio oddi wrth ei deulu ac fel un sydd wedi gadael gofal, gan wynebu anawsterau oherwydd y ddau beth (gydag addysg a phrofiadau gyda fy awdurdod lleol). Byddwn yn dadlau dros fuddiannau pob myfyriwr annibynnol, yn y brifysgol ac wrth sefydliadau eraill. Gan dynnu ar y profiadau ges i, byddaf yn sicrhau na fydd yr un llais annibynnol yn mynd heb ei glywed. Byddwn hefyd yn gweithio i greu cymdeithasau a rhwydweithiau er mwyn sicrhau fod gennym ffyrdd o rannu profiadau a gwybod nad ydyn ni ar ein pennau ein hunain.
|
|
Beth yw’r 3 mater pennaf sy’n effeithio ar fyfyrwyr?
1) I fyfyrwyr yn gyffredinol, mae arian yn fater mawr. Byddwn yn fan cyswllt i’n helpu ni a myfyrwyr sy’n cael eu cefnogi gan eu teuluoedd i gael mynd at y cymorth y maen nhw’n haeddu ei gael.
2) I bob myfyriwr, (er myfyrwyr annibynnol yn arbennig) dwi’n cydnabod wrth fy mhrofiad innau fod iechyd meddwl yn fater enfawr. Byddwn yn gweithio i roi pobl ar ben y ffordd tuag at y cymorth iawn, yn ogystal â gweithio gyda’r brifysgol i amlygu’r materion y mae myfyrwyr annibynnol yn eu hwynebu o ddydd i ddydd.
3) Diffyg cydnabyddiaeth - gall myfyrwyr annibynnol wynebu llawer o faterion nad yw’n cael eu cydnabod gan y boblogaeth ehangach. Byddwn yn gweithio’n ddi-flin er mwyn sicrhau fod y brifysgol a’r boblogaeth fyfyrwyr yn cydnabod, gwerthfawrogi, a chefnogi y brwydrau rydyn ni’n eu hwynebu.
|
|
|
Swyddog Y Myfyrwyr Hyn

Mesh Tamilchelven
Fel myfyriwr rhyngwladol cwîar, mae gennyf i safbwynt unigryw ar anghenion amrywiol myfyrwyr yn y brifysgol.
|
|
Pa nodweddion personol fyddech chi'n eu cyfrannu at y rôl?
Dwi’n teimlo’n gryf am fy ngwaith a fy nod yw gweithio’n ddiwyd er mwyn sicrhau bod eich buddiannau yn cael eu cynrychioli.
|
|
Beth yw’r 3 mater pennaf sy’n effeithio ar fyfyrwyr?
Costau byw
Newid i fywyd wedi’r Brifysgol
Unigrwydd
|
|
|
Swyddog Myfyrwyr Traws ac o Rywedd Anghydffurfiol

Rowan Peill
Mond bachgen bach ‘dwi (gyda nifer o wenyn) gyda llawer o amser ac ymroddiad i wneud bywydau pobl Draws+ eraill yn well.
|
|
Pa nodweddion personol fyddech chi'n eu cyfrannu at y rôl?
Dwi’n hyderus wrth siarad yn gyhoeddus, addysgu a dadlau achos dros y gymuned Draws+, yn ganlyniad i’m swydd fel Llysgennad ‘Just Like Us’, ac fe af ati i dynnu ar y profiad hwn gyda brwdfrydedd. Byddaf yn manteisio ar fy nghyfrifoldebau presennol at ehangu’r ystod o gymorth a gwybodaeth sydd ar gael i fyfyrwyr. Byddaf hefyd yn rhagweithiol wrth ateb cwestiynau ac yn ymdrechu i ddarparu’r atebion gorau posibl.
|
|
Beth yw’r 3 mater pennaf sy’n effeithio ar fyfyrwyr?
Mae pob myfyriwr yn wynebu anawsterau ariannol, ac yn arbennig myfyrwyr Traws+ y mae angen cael gafael ar gynhyrchion cadarnhau rhywedd arnynt, a all fod yn faich ychwanegol. Hoffwn barhau â’r cynllun Yma a Thraws a sicrhau arian pellach ar ei gyfer, neu gymryd rhan mewn gweithgarwch codi arian fel bod yr arian yn parhau i fod ar gael o hyd i’r rheiny sydd ei angen.
Mae myfyrwyr hefyd yn ansicr ynghylch pa glybiau a chymdeithasau sydd wirioneddol yn fannau diogel, ac yn aml maen nhw’n dibynnu ar hen straeon. Fy nod fydd cefnogi clybiau i gynhyrchu dogfen dryloywder sy’n cynnwys polisïau presennol eu Corff Llywodraethu ar athletwyr, ynghyd â’r hyn y maent yn ei wneud i gefnogi unigolion (e.e. a yw’r ystafelloedd newid yn rhai unigol neu a oes cystadlaethau categori cymysg ar gael). Ar draws y brifysgol, mae’n anodd dod o hyd i’r adeg iawn i gychwyn cywiro aelodau o staff wrth gael ein camryweddu. Yn aml, dyw cywiro hyn yn gyhoeddus neu ar y pryd ddim yn briodol, ac mae modd i straen rwystro person rhag cywiro’n breifat, ar ôl darlith neu drwy e-bost. Byddwn yn bwriadu gweithredu system i rannu’r wybodaeth hon yn gwrtais, ynghyd â gwybodaeth am pam y mae cadarnhau rhywedd yn y gweithle yn bwysig.
|
|