Rheolau’r Etholiadau

 

POBL ALLWEDDOL

Jacob Webb: Dirprwy Swyddog Dychwelyd

Y Dirprwy Swyddog Dychwelyd (DSD) fydd eich prif gyswllt ynglŷn ag unrhyw gwestiynau neu gwynion. Rhaid cyflwyno pob cwyn trwy’r Ffurflen Gwyno. Bydd y DSD yn pasio unrhyw fater ymlaen i Swyddog Dychwelyd yr UCM i gael eu barn. Gellir cysylltu â’r DSD trwy union.elections@aber.ac.uk.

Swyddog Canlyniadau UCM

Mae'r Swyddog Canlyniadau yn goruchwylio'r broses etholiadol fel ei bod yn deg ac yn agored.


DYDDIADAU ALLWEDDOL

Daw’r canlyniadau i rym cyn gynted ag y gellir penderfynu’n rhesymol bod unigolyn am barhau i fod yn ymgeisydd. Caiff ymgeisydd ei b/friffio ar ôl i’r sefyll gau. Darllener y rheolau hyn cyn ymgyrchu gan y byddwch yn dal i fod yn rhwym iddynt.


SEFYLL

  1. I Sefyll, mae rhaid i chi lenwi’r ffurflen sefyll ar-lein trwy umaber.co.uk/newidaber/etholiadau/
  2. Pan yn ymgeisio i sefyll, bydd rhaid i chi gynnwys eich enw, eich rhif myfyriwr, a’ch cyfeiriad e-bost prifysgol
  3. Ni chaniateir i aelod sefyll am fwy nag un swydd o’r un fath (Ymddiriedolwr Myfyriwr, Swyddog Sabothol, Swyddog Gwirfoddol) yn yr un etholiad.
  4. Bydd yr Undeb yn trefnu sesiwn Briffio’r Ymgeiswyr ar ddiwedd y cyfnod sefyll. Yn y sesiwn briffio,
    bydd y DSD yn cyflwyno rheolau’r etholiadau a rhoi diweddariadau perthnasol i’r ymgeiswyr. Disgwylir i chi wneud eich gorau glas i fynychu. Ni dderbynnir diffyg dealltwriaeth o’r rheolau yn esgus dros dorri’r rheolau. Os na allwch chi fynychu’r cyfarfod hwn, dylech sicrhau eich bod yn trefnu sgwrs gyda’r Dirprwy Swyddog Etholiadau cyn ymgyrchu.

YMGYRCHU

  1. Yr ymgeiswyr fydd yn gyfrifol am ymddygiad ymgyrchwyr sy’n cefnogi eu hymgyrch etholiadol, cyfeirir atynt fel tîm ymgyrchu. Diffinnir ymgyrchydd fel rhywun y deellir i weithredu ar ran ymgeisydd i hyrwyddo ymgyrch etholiadol yr ymgeisydd hwnnw.
  2. Mae cyfrifoldeb ar ymgeiswyr i sicrhau bod eu hymgyrchoedd yn cydymffurfio â’r rheolau ymgyrchu a bydd disgwyl iddynt brofi hyn os codir cwyn yn eu herbyn.
  3. Mae’n rhaid i ymgeiswyr a’u hymgyrchwyr ond weithredu ar lefel sy’n gyfartal â’r cyfleoedd sydd ar gael i ymgyrchwyr eraill ymgyrchu.
  4. Dylai ymgeiswyr a’u hymgyrchwyr ymddwyn gyda pharch tuag at eraill, a ni chaniateir iddynt fygwth, aflonyddu neu beryglu llesiant a diogelwch eraill.
  5. Ni chaniateir i ymgeiswyr a’u tîm ymgyrchu ddefnyddio adnoddau’r Brifysgol neu Undeb y Myfyrwyr i hyrwyddo eu hymgyrch oni bai eu bod wedi cael caniatâd penodol oddi wrth y DSD.
  6. Ni chaniateir i ymgyrchwyr a’u tîm ymgyrchu honni bod yr Undeb neu fod aelodau staff unigol yr Undeb yn eu cefnogi (neu’r ymgeisydd maent yn ei gefnogi).
  7. Ni chaniateir i ymgeisydd neu ei dîm ymgyrchu fwrw pleidlais neu geisio bwrw pleidlais ar ran myfyrwyr arall.
  8. Ni chaniateir i ymgeiswyr brynu pleidlais bleidleiswyr fel rhan o’u hymgyrch.
  9. Mae rhaid i ymgeiswyr a’u tîm ymgyrchu gydymffurfio â’r holl ddeddfau a rheolau ehangach presennol sy’n rheoli ymddygiad unigolion neu fyfyrwyr.
  10. Ni chaniateir i Glybiau a Chymdeithasau ddangos cefnogaeth nes ar ôl i’r enwebiadau ddod i ben a chyhoeddi’r ymgeiswyr. Rhaid i gefnogaeth gan grŵp myfyrwyr ddod yn sgil prosesau gwneud penderfyniadau sefydlog, ac ni chaiff ymgeiswyr yn yr etholiadau gymryd rhan yn y bleidlais.
  11. Dim ond Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth gaiff ymgyrchu yn yr etholiadau.
  12. Mae’n rhaid i Swyddogion Llawn Amser gymryd amser i ffwrdd os ydynt yn dymuno ymgyrchu yn ystod oriau gwaith arferol.
  13. Gwaharddir Swyddogion Llawn Amser ac ymgeiswyr eraill rhag manteisio ar unrhyw adnoddau sy’n gysylltiedig â’i swydd bresennol i gefnogi eu hymgyrch.
  14. Yn ystod cyfnod yr etholiadau, ni chaniateir i Swyddogion Llawn Amser gyflawni unrhyw ddyletswyddau neu weithgarwch y gellid ystyried o fantais i’w hail-ethol, ag eithrio tasgau sy’n rhan o’u rôl arferol ac maent wedi ymroi’n gyson iddynt trwy gydol y flwyddyn gyda chymeradwyaeth gan y Dirprwy Swyddog Etholiadau ymlaen llaw.
  15. Mae croeso i chi osod posteri o amgylch adeilad yr Undeb, ond peidiwch â defnyddio tâp. Os hoffech chi arddangos deunydd tu allan i'r Undeb, bydd rhaid i chi ofyn am ganiatâd gan y Brifysgol. Cofiwch na cheir gosod deunydd hyrwyddo ar welydd bar yr Undeb. Yn lle, bydd hysbysfyrddau penodol at eich defnydd y tu mewn i'r bar.


CYLLID

  1. Gosodir cyllideb ymgyrchu gan y Dirprwy Swyddog Etholiadol a cheir ei chyflwyno yn sesiwn briffio yr ymgeiswyr. Bydd yr Undeb yn ad-dalu’r costau hyn wrth ddarparu derbynebau. Cewch gyflwyno eich ffurflen dreuliau hyd at awr ar ôl i’r pleidleisio gau. Ni chaiff unrhyw geisiadau am ad-daliadau ar ôl yr adeg hon eu derbyn.
  2. Ni chaniateir i ymgeiswyr fynd dros ben terfynau eu cyllideb.
  3. Rhaid i ymgeiswyr gadw rhestr ysgrifenedig o gostau’r ymgyrch. Rhaid hefyd i ymgeiswyr fod yn barod i ddarparu’r rhain ar gais Swyddog yr Etholiadau
  4. Disgwylir i ymgeiswyr allu rhoi tystiolaeth o’u costau ymgyrchu rhag ofn y codir cwyn yn eu herbyn. Lle bo’n bosib, dylid gwneud hyn ar ffurf dderbynebau. Lle na fydd modd, dylid defnyddio amcangyfrif pris arferol eitem. Er eglurder, dylid siarad â’r Dirprwy Swyddog Etholiadol cyn defnyddio’r eitem dan sylw.
  5. Rhaid i'r Dirprwy Swyddog Canlyniadau brisio pob eitem nad yw wedi'i phrynu ond a ddefnyddir at ddibenion ymgyrchu.
  6. Ni fydd hyn ond yn berthnasol oni bai bod yr eitem am ddim i bawb. Er enghraifft, ni cheir defnyddio megaffon ail-law oni cheir cymeradwyaeth. Rhaid cynnwys unrhyw ddeunydd hyrwyddo cymeradwyedig yng nghyllid eich ymgyrch. Gofynnwch i’r Dirprwy Swyddog Etholiadau am eglurhad.

CYFRI A CHYHOEDDI

  1. Pan fydd y pleidleisiau yn cael eu cyfri, bydd y Swyddog Dychwelyd neu ei enwebydd yn goruchwylio’r broses.
  2. Ni ddaw canlyniadau etholiadau’r Undeb ond i rym nes bod y Dirprwy Swyddog Etholiadau wedi cadarnhau bod y canlyniadau yn gywir ac yn deillio o weithdrefn rydd a theg a bod pob cwyn a apêl wedi’u datrys.

CWYNION AC APELIADAU​ 

  1. Cyfrifoldeb y Swyddog Dychwelyd yn unig fydd dehongli’r rheolau hon ac is-ddeddfau yr Undeb.
  2. Pan yn ymchwilio cwyn ynghylch toriadau posib o’r is-ddeddfau, mae’n rhaid ei gyflwyno’n ysgrifenedig trwy ddefnyddio’r ffurflen ar-lein addas ar gyfer y DSD. Mae’n rhaid i’r cwyn fod yn glir pan yn cyfeirio at y rheolau hon. Ni cheir ond defnyddio y weithdrefn gwyno hon at ddibenion sy’n ymwneud ag ymddygiad yn yr etholiadau fel yr amlinellir yn yr is-ddeddfau a’r rheolau. Rhaid cyflwyno unrhyw gwynion eraill trwy broses gwyno Undeb Aber.
  3. Bydd y DSD yn ymchwilio cwynion a chyfeirio’r materion i’r Swyddog Dychwelyd ei benderfynu.
  4. Yn sgil canlyniad penderfyniadau, gall y Swyddog Dychwelyd ddewis gweithredu ar sail y canlyniad. Gall hyn gynnwys tynnu rolau penodol yn ôl o’r etholiadau, gan ei gyfeirio i gael ei ddatrys gan brosesau disgyblu neu wahardd ymgeiswyr yr Undeb neu’r Brifysgol.
  5. Bydd dyfarniadau’r Swyddog Dychwelyd yn cael eu rhoi ar waith yn syth.
  6. Mae’n rhaid cyflwyno unrhyw gwyn cyn cyfri’r pleidleisiau neu o fewn un awr ar ôl i’r pleidleisio ddod i ben.
  7. Mae’n rhaid cyflwyno ynghylch cyfri’r pleidleisiau yn ysgrifenedig trwy ddefnyddio’r ffurflen ar-lein addas a’i hanfon at y Swyddog Dychwelyd neu’r DSD cyn cyhoeddi’r canlyniadau.
  8. Mae’n rhaid i unrhyw apêl gael ei gyflwyno yn ysgrifenedig i’r Swyddog Dychwelyd neu’r DSD cyn 12pm y diwrnod ar ôl i’r ymgeisydd gael gwybod o benderfyniad a wneir gan y Swyddog Dychwelyd. Ni chaiff ymgeiswyr gyflwyno apeliadau yn erbyn cosbau oni bai eu bod yn ganlyniad i gŵyn.
  9. Mae’n rhaid i apêl roi seiliau clir gan gyfeirio at ddehongliad afresymol o reolau’r etholiadau, na ddilynwyd y broses gywir, bod y Swyddog Dychwelyd wedi dangos rhagfarn, tueddiad neu wedi methu ag ystyried yr holl wybodaeth ar gael. Ceir darllen yr holl fanylion rheolau a rheoliadau sy’n llywio’r etholiadau ar wefan UMAber.

 

 

Ar wefan Undeb Aberystwyth, mae Is-ddeddfau’r Etholiadau lle ceir yr holl reolau a rheoliadau mewn manylder a lywodraethir yr etholiadau.

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576