Beth yw Ymddiriedolw?

Beth yw Ymddiriedolw?​: Disgrifiad Undeb Aberystwyth?

“Mae eich Undeb yn cael ei reoli a’i arwain yn strategaethol gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr. Yn y pendraw, nhw sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr ein bod yn cydymffurfio â’n hamcanion fel elusen. Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr UMAber yn cael ei ffurfio gan 12 o aelodau ac yn cwrdd o leiaf pedair gwaith y flwyddyn i weithio ar eich rhan”

Ceir gwybodaeth bellach am Fwrdd Ymddiriedolwyr yr Undeb yma.

Pwy Sy'n Ymddiriedolwyr Yn Yr Undeb?

  • Llywydd Academic (o fis Gorffennaf 1af 2026 ymlaen)

  • Llywydd Opportunities (o fis Gorffennaf 1af 2026 ymlaen)

  • Llywydd UMCA (o fis Gorffennaf 1af 2026 ymlaen)

  • Llywydd Wellbeing & Liberation (o fis Gorffennaf 1af 2026 ymlaen)

  • 1 Ymddiriedolwr Israddedig

  • 1 Ymddiriedolwyr Ôl-raddedig 

  • 5 Ymddiriedolwyr Allan (ar sail sgiliau, profiad a gwybodaeth broffesiynol)

  • Pob Swyddog Llawn Amser (Llywydd, Materion Academaidd, Cyfleoedd Myfyrwyr, Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA, Llesiant)

    Prif Weithred Undeb y Myfyrwyr, Trish

    1 Ymddiriedolwr Myfyrwyr Is-raddedig

    1Ymddiriedolwr Myfyrwyr Ôl-raddedig

    5 Ymddiriedolwr Allanol (ar sail sgiliau, profiad a gwybodaeth broffesiynol)


Cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr

Caiff Swyddog Llawn Amser ei benodi yn Gadeirydd ar Fwrdd yr Ymddiriedolwyr yn ystod cyfarfod cyntaf eu tymor. (o fis Gorffennaf 1af 2026 ymlaen)

Eu Rôl:

  • Cadw strwythur y cyfarfod.
  • Cadw i’r cyfarfod fynd yn ei flaen.
  • Gadael i bawb siarad a rhannu eu barn.
  • Sicrhau bod pob aelod yn cael ei barchu.
  • Cadw trefn ar bethau a gwneud yn siŵr mai un person ar y tro yn siarad.
  • Cadw at bwnc y drafodaeth.
  • Tynnu sylw at gynigion a wneir yn y cyfarfod, yn crynhoi yr hyn mae’r aelodau pwyllgor wedi’i ddeud.
  • Crynodeb o bob dim a gafodd ei ddeud a dangos penderfyniad clir.
  • Dod o hyd i dir cyffredin i’r rhai sy’n anghytuno.
  • Egluro ar ba beth mae aelodau yn pleidleisio a chynnal pleidlais

 

Beth yw hanfodion cadeirydd da?

Nodwedd gadeirydd da yw rhywun sy’n gadael i eraill gyfrannu, sicrhau bod pawb yn deall y drafodaeth ac yn gwneud penderfyniadau o fewn yr amser sydd ar gael.

Dylai’r cadeirydd ddeall y cyfansoddiad a’r rheolau sy’n ymwneud â chyfarfodydd, deall sut strwythur y cyfarfodydd hynny.


Sut mae'n cyd-fynd â'i gilydd?

Caiff Swyddog Llawn Amser ei benodi yn Gadeirydd ar Fwrdd yr Ymddiriedolwyr yn ystod cyfarfod cyntaf eu tymor.

  1. Bwrdd yr Ymddiriedolwyr Cyfarfod 4-5 gwaith y flwyddyn Gan gynnwys Swyddogion Llawn Amser, Ymddiriedolwyr sy’n Fyfyrwyr, ac ymddiriedolwyr Allanol.
  2. Y Cyfarfod Mawr: Cynhelir unwaith y flwyddyn ac yn agored i’r holl aelodaeth. Rhaid cael 100 myfyriwr i fod yn gworwm*.
  3. y Senedd: yn cyfarfod 4 gwaith y flwyddyn (gan gynnwys y Cyf Cyff) ac yn gosod polisïau'r Undeb. Dim ond myfyrwyr etholedig gaiff bleidleisio ac mae’n rhaid i 50% +1 o’r etholedigion i fod yn bresennol i wneud cworwm.
  4. Byrddau Cynghori: Cyfarfod 2 waith y flwyddyn i ymgynghori â’r Undeb a chodi materion. Byrddau Cynghori: Myfyrwyr Rhyngwladol, Myfyrwyr Anabl, Clybiau, Cymdeithasau a Phrosiectau Gwirfoddoli, a Rhyddid a Llesiant.
  5. Fforymau: Cynrychiolwyr Academaidd a’r Gymraeg a Diwylliant Cymru, a gaiff eu cadeirio gan y Swyddogion Llawn Amser perthnasol i gasglu adborth. 

Sut mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn wahanol i gyfarfod Democrataidd o fewn yr Undeb?

Ar wahân i adrannau eraill o’r Undeb, nid yw Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn atebol yn ddemocrataidd i’r aelodaeth. Yn lle, mae ymddiriedolwyr yn gweithredu er budd yr Undeb, gan sicrhau cydymffurfio â chyfraith elusennau ac unrhyw ofynion cyfreithiol eraill, a diogelu yr Undeb rhag risg ariannol.

O ganlyniad, gall Bwrdd yr Ymddiriedolwyr wrthod cynnig polisi a gafodd ei gymeradwyo mewn cyfarfod myfyrwyr democrataidd os ydynt yn credu y gall fod yn fygythiad i’r Undeb o ran y gyfraith, arian, neu enw da.

Mae’r Bwrdd yn adrodd yn ôl i’r aelodaeth bob blwyddyn yn y Cyf Cyff, a chaiff cofnodion llawn cyfarfodydd eu cyhoeddi ar y wefan er tryloywder. Mae’r ymddiriedolwyr yn gweithredu ar y cyd, yn gwneud penderfyniadau fel tîm. Mae’r cyfrifoldeb ar y cyd hwn yn golygu os ydych chi’n anghytuno gyda phenderfyniad a gafodd ei gymeradwyo neu ei wrthod gan y Bwrdd, ni ddylid ei wrthwynebu yn gyhoeddus gan fod disgwyl i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ymddangos yn unfryd.


A gaf i fy hyfforddi?

Cewch, caiff pob Swyddog Llawn Amser ei hyfforddi ar ei gyfrifoldebau fel ymddiriedolwyr ac ar sut i gyfrannu’n effeithiol mewn cyfarfodydd.


Eisiau gwybod mwy?

Gweler y gwefannau gwych hyn i gael rhagor o wybodaeth :

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576