Gallwch gofnodi'ch oriau (taledig a gwirfoddoli) yn ogystal a'ch sgiliau er mwyn gweithio tuag at 2 wobr.
Cliciwch y botymau isod am fwy o wybodaeth am y gwobrau:

Eleni, caiff oriau eu cyfrif o 1 Mehefin 2025 tan 31 Mai 2026.
Rydych chi wirfoddolwyr myfyrwyr Undeb Aber yn anhygoel ac rydym yn credu eich bod chi’n haeddu cydnabyddiaeth am yr holl amser a’r ymdrech rydych chi’n eu rhoi er lles eich cydfyfyrwyr, y gymyned neu achos sydd o bwys ichi.
Mae’r GWOBRAU ABER yn ffordd o ddathlu eich rwymedigaeth i wirfoddoli yn ystod eich amser yma yn Aberystwyth. Mae gennym 4 gwobr (Efydd, Arian, Aur ac Platinwm) y gallwch weithio tuag atynt trwy gydol y flwyddyn academaidd. Mae pob gwobr yn eich helpu i fonitro’r oriau, y gweithgareddau a’r sgiliau rydych chi’n eu hennill neu eu cyflawni fel gwirfoddolwr. Croesawir pawb sy’n cyrraedd gwobr garreg filltir i'n digwyddiad ar ddiwedd y flwyddyn lle y byddwch yn cael eich dyfarnu gyda thystysgrif argraffedig o’r wobr uchaf rydych chi wedi’i chyflawni.

Sut i weithio tuag at Wobr Aber?
Mae'n hawdd gweithio tuag at Wobr Aber, dilynwch y camau hyn:
- Cofrestrwch fel gwirfoddolwr
- Mewngofnodwch i'r Hwb Gwirfoddolwyr
- Cofnodwch eich oriau, gweithgareddau a sgiliau yn rheolaidd
Nid ydych chi'n gyfyngedig i gofnodi oriau o un rôl, felly os ydych chi'n ymwneud ag amryw o wahanol weithgareddau gwirfoddol, yna byddem yn eich annog chi i gofnodi popeth rydych chi'n ei wneud! Gwnewch yn siwr eich bod yn diweddaru'ch cofnod!
Pa oriau a gweithgareddau alla i eu cofnodi?
Gellir cofnodi unrhyw wirfoddoli a wnewch yn Aberystwyth, yn ystod y flwyddyn. Cyn derbyn eich gwobr, bydd aelod o staff yn cadarnhau eich holl oriau gwirfoddoli a’r sgiliau rydych chi wedi’u meithrin. Nid dim ond yr oriau rydyn ni'n eu gwirio, ond y sgiliau hefyd. Gallwch ganfod mwy am ba weithgareddau y gellir eu cofnodi:
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu eisiau rhagor o wybodaeth ynglyn â’r Gwobrau Gwirfoddoli yna cysylltwch a'n Cydlynydd Gwirfoddoli, Cat: suvolunteering@aber.ac.uk
Rydym yn gweithio’n agos gyda Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol i gyflwyno’r Wobr Sgiliau, a fydd yn cydnabod ac yn dathlu popeth rydych chi’n ei wneud y tu allan i’ch cwrs - boed yn waith rhan amser, gwirfoddoli yn y gymuned neu gyda chlybiau a chymdeithasau. Dyma’ch cyfle i ddathlu eich datblygiad, i gydnabod y sgiliau rydych chi wedi’u magu, ac i’ch cefnogi gan arddangos eich sgiliau i gyflogwyr yn y dyfodol.
Beth yw’r Wobr Sgiliau?
Mae’r Wobr Sgiliau yn ffordd strwythuredig i chi:
- Gofnodi eich oriau: Cofnodi lleiafswm o 60 awr o weithio a gwirfoddoli yn yr un lle.
- Adnabod eich sgiliau: Cadw golwg ar y sgiliau rydych chi’n eu magu trwy’r profiadau hyn, hy gwaith tîm, cyfathrebu, arwain, datrys problemau, a mwy.
- Fynychu sesiynau datblygu: Elwa o unrhyw un o’r tair sesiwn hyfforddi a datblygu a gynhelir gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, gan gynnwys gweithdai, digwyddiadau a sgyrsiau gyrfaoedd. Gellir gweld pob sesiwn yma.
- Ystyried eich datblygiad: Cwblhau dau grynodeb 150 gair i fyfyrio ar eich datblygiad personol trwy gydol y wobr.
Pa weithgareddau sy’n cyfri tuag at y 60 awr?
Cewch gofnodi ystod eang o weithgareddau, ee:
- Gwaith di-dâl neu am dâl: Swyddi rhan amser, interniaethau (ee y Rhaglen Interniaethau Llwybrau Proffesiynol), profiad gwaith a gwaith llawrydd.
- Gwirfoddoli: prosiectau cymunedol, diwrnodau o weithredu, mentora cyfoedion, rolau pwyllgor clybiau a chymdeithasau, codi arian, allgymorth.
- Rolau ar y Campws: Llysgenhadon myfyrwyr a Chynrychiolwyr Academaidd.
Mae croeso i chi gofnodi mwy nag un weithgaredd neu gymysgedd, ac os nad ydych chi’n siŵr a ydy gweithgaredd yn cyfri tuag at y wobr, anfonwch e-bost at workexp@aber.ac.uk.
Sut mae’n gweithio
- Cofrestrwch fel gwirfoddolwr ar yr Hyb: mae modd ei wneud neu fewngofnodi yma.
- Cofnodwch eich oriau: Cofnodwch unrhyw oriau gwaith neu wirfoddoli rydych chi wedi’u cwblhau trwy gydol y flwyddyn (1 mis Mehefin ‘25 tan 31 mis Mai ‘26).
- Ychwanegwch eich sgiliau: Ar gyfer pob rôl neu weithgarwch, dewiswch y sgiliau rydych chi wedi’u defnyddio neu eu meithrin. Cewch ddechrau rhoi proffil sgiliau clir at ei gilydd dros amser.
- Cwblhewch ddau ddarn myfyriol: Bydd gofyn i chi gyflwyno dau ddarn myfyriol.
- Ystyriaeth 1: ystyried y sgiliau rydych chi wedi’u meithrin trwy weithdai, digwyddiadau, a sgyrsiau Gyrfaoedd.
- Ystyriaeth 2: ystyried y sgiliau rydych chi wedi’u meithrin trwy weithio neu wirfoddoli.
- Cyflwynwch: Unwaith i chi orffen pob agwedd arni, cyflwynwch eich gwobr.
Gwasgwch isod i fwrw arni gyda’r Wobr Sgiliau heddiw. Dim ond i chi gofrestru er mwyn mynd ar eich proffil.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu eich bod eisiau gwybodaeth bellach am y Wobr Sgiliau, anfonwch e-bost at workexp@aber.ac.uk.
Cliciwch isod i weithio tuag at y gwobrau a cofnodwch eich gweithgareddau, eich sgiliau a’ch oriau ar y system.
Yn gyntaf, mae rhaid i chi gofrestru er mwyn defnyddio eich proffil.
