Aber 7's

Unwaith eto bydd tref hyfryd Aberystwyth ger y lli yn cynnal yr wyl rygbi 7 bob ochr FWYAF yn ystod penwythnos Gwyl Banc Mai, rhwng 4-5ed o Fai 2024.

Y dyddiad cau ar gyfer mynediad tîm yw 10am Dydd Llun 1af Ebrill 2024

Cysylltwch â Rheolwr Cyfleoedd Myfyrwyr UMAber, Lucie Gwilt am fwy o fanylion.

 

Nid yw'r cynnyrch hwn ar werth.

Nid yw'r cynnyrch hwn ar werth.

Nid yw'r cynnyrch hwn ar werth.

Nid yw'r cynnyrch hwn ar werth.

Nid yw'r cynnyrch hwn ar werth.

Llety

Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda'r Brifysgol eto eleni o ran darparu llety fforddiadwy i'n timau. Byddwch yn gallu archebu ystafelloedd yn ein fflatiau Penbryn a BunkHouse ar gyfradd o £30pppn / £37.50 pppn yn y drefn honno (yn seiliedig ar arhosiad o leiaf dwy noson).

Cod hyrwyddo Aber7 ar gyfer archebu yw "rygby7" er mwyn gallu archebu lle ar y gyfradd ostyngol hon, ond yn y cyfamser gallwch gael rhagor o wybodaeth am y llety sydd ar gael yma.

Cystadlaethau

Cynhelir yr holl gystadlaethau dros y penwythnos cyfan. Ar y diwrnod 1af a bore’r 2il ddiwrnod, bydd y timau yn chwarae mewn cynghrair, gyda chystadleuaeth ddileu yn cael ei chynnal ar brynhawn yr 2il ddiwrnod. Yn dibynnu ar lwyddiant pob wrth chwarae yn y gynghrair, byddant naill ai yn symud ymlaen i’r Cwpan, y Plât neu’r Fowlen a fydd yn gystadlaethau dileu sy’n cynnwys rowndiau cyn-derfynol a rownd terfynol.

Gwybodaeth Allweddol

Dyddiad:  4-5ed o Fai 2024

Mynediad: Pris mynediad gwylwyr Aber7s 2024 yw £8 y dydd neu £10 ar gyfer y ddau ddiwrnod. Archebwch eich tocynnau yma!

Parcio: Codir tâl i barcio unrhyw gerbyd - £3 y dydd neu £5 am ddau ddiwrnod. Archebwch eich tocynnau yma! Bydd angen i chi gael eich tocyn parcio yn y maes parcio gan aelod o staff UMAber (mewn siacedi llachar).

Bwyd a Diod: Mae ganddo ni ddigon o ddewis bwyd a diod ar safle #Aber7s eleni; Van byrgyrs a sglodion, Indian Cuisine, Hog Roast, Hufen Ia, van coffi a bar y brifysgol.

Does dim rhaid i chi adael y cae!

Canlyniadau: Mae modd dilyn y canlyniadau byw trwy gydol y penwythnos ar www.aber7s.co.uk

Polisi Blaendolau: Ni chaniateir cwn ar Gaeau Chwarae Blaenau.

Manylion ir Capteiniaid

Cystadlaethau | Gemau dydd Sadwrn | Gemau dydd Sul | Strwythur Knockouts dydd Sul

Map o'r lleoliad | Rheolau

Mynediad: Caiff pob chwaraewr cofrestredig fynediad am ddim felly sicrhewch eich bod chi'n cyrraedd mewn da bryd cyn y gêm gyntaf! Cofiwch, bydd y tîm diogelwch yn sicrhau nad oes gennych alcohol. Os byddant yn dod o hyd i alcohol, caiff ei gymryd oddi wrthych.

Cofrestru'ch Tîm: O 9:00am ymlaen fore Sadwrn ym Mhabell y Swyddogion ym Mlaendolau. (Capteiniaid yn unig os gwelwch yn dda).

Gemau: Bydd y gemau cyntaf yn dechrau'n BRYDLON am 9.40am ar y ddau ddiwrnod. Ni chaiff unrhyw dîm sy'n hwyr / sy'n methu â mynychu gêm chwarae rhan bellach yn gystadleuaeth.

Gorchuddion dannedd: Bydd stondin fechan ar wahân yn gwerthu gorchuddion dannedd hefyd.

Cyflwyniad: Bydd Cyflwyniad y Gwobrau'n digwydd ar y safle, yn dilyn rownd derfynol y Prif Gwpan am tua 5:30pm ddydd Sul.

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576