Ble Maen Nhw Nawr? - Jasmine Cross

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Ble Maen Nhw Nawr?

 

Dy enw:

Jasmine Cross

Beth yw dy swydd bresennol a ble wyt ti'n gweithio?

Uwch Gydlynydd Digwyddiadau - FIRST Asiantaeth ar gyfer cleientiaid uniongyrchol

Pa rôl fel Swyddog oedd gen ti?

Gweithgareddau

Pa flwyddyn?

2016-2017

Ble oeddet ti'n Swyddog?

Prifysgol Aberystwyth

Beth yw'r atgof gorau sydd gen ti o sefyll etholiad a/neu dy amser fel Swyddog?

Cyfarfod a siarad â phobl nad oeddwn erioed wedi cwrdd â nhw. Clywed barn a phryderon nad oeddwn erioed wedi clywed na meddwl amdanynt o'r blaen

Beth wyt ti wedi'i ddysgu o sefyll etholiad a/neu o fod yn Swyddog?

Os ydych chi eisiau unrhyw beth (ar unrhyw adeg) mae'n rhaid i chi godi eich llais a mynd amdani.

Pa gyngor sydd gen ti i unrhyw un sy’n ystyried sefyll mewn etholiad?

Gwnewch e. Mae'n swydd wych i'w chael, ac mae gennych chi gymaint o botensial i wneud cymaint o ddaioni. 

Sut mae dy gyfnod fel Swyddog Llawn-amser wedi effeithio ar dy yrfa?

Dyma'r rheswm pam fod gen i'r swydd sydd gen i nawr. Pan gefais i fy swydd gyntaf yn y diwydiant digwyddiadau, roedd y ffaith fy mod wedi bod â’r rôl hon o'r blaen wedi creu cymaint o argraff ar fy nghyflogwyr. Mae'n sefyll allan ar CV.

Pum gair i grynhoi'r cyfan?

Gerth-chweil, addysgiadol, heriol, cyffrous, datblygiadol

 

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576