Ble Maen Nhw Nawr? - Caroline Dangerfield

welsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Ble Maen Nhw Nawr?

 

Dy enw:

Caroline Dangerfield

Beth yw dy swydd bresennol a ble wyt ti'n gweithio?

Dirprwy Brif Weithredwr - Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bath Spa

Pa rôl fel Swyddog oedd gen ti?

Is-Lywydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol / Llywydd 

Pa flwyddyn?

2010/11 (IL) 2011/12 (Llywydd) 

Ble oeddet ti'n Swyddog?

Undeb Myfyrwyr Prifysgol Salford

Beth yw'r atgof gorau sydd gen ti o sefyll etholiad a/neu dy amser fel Swyddog?

Mae yna gymaint ohonyn nhw! Un o'r pethau gorau am fod yn Swyddog oedd yr hwyl a gefais yn gweithio gyda gweddill y tîm. Roeddem yn chwarae triciau ar ein gilydd yn rheolaidd; un tro llwyddodd gweddill y tîm i argyhoeddi'r Llywydd ein bod yn cynnal ymgyrch ‘Na i Ffioedd, Caws i Bawb ‘ a phan ddaeth yn ôl i'r Undeb, doedd e ddim yn hapus! Arweiniodd at yr hyn yr oeddem ni'n ei alw'n 'sefyllfa Dau Ddrws' pan oedd yn rhaid i ni gau'r ddau ddrws i'r swyddfa Sabothol, fel na allai pobl eraill ein clywed ni'n anghytuno - Ni chymerodd y jôc yn dda iawn!   O ran ein hymgyrchoedd, aethom â bron i 300 o fyfyrwyr, 6 llond bws, i’r Gwrthdystiad Cenedlaethol yn Llundain yn 2010. Doedd gan Salford ddim llawer o hanes o ran ymgyrchu gwleidyddol, ac roedd y ffaith i ni drefnu bod cymaint â hynny o fyfyrwyr yn cwrdd am 5 o’r gloch y bore i gael eu lleisiau wedi'u clywed ar fater Cenedlaethol, yn fraint wirioneddol. 

Beth wyt ti wedi'i ddysgu o sefyll etholiad a/neu o fod yn Swyddog?

Dysgais gymaint yn ogystal â sicrhau fy mod i'n dal i gael hwyl hyd yn oed pan fydd y baich gwaith yn drwm ac yn galed! Rheoli amser, cynllunio, meithrin perthnasoedd â phobl ar bob lefel, arweinyddiaeth, trafod, rhwydweithio, sgiliau dylanwadu, llywodraethiant elusennau, dysgu sut i ymgysylltu â pholisi a siarad cyhoeddus. Hyn oll, a gweithio o fewn tîm, fy nhîm uniongyrchol o Swyddogion, ond hefyd tîm staff yr UM yn ehangach, pawb ohonynt â gwahanol rolau ac yn gweithredu ar wahanol lefelau. Dysgais hefyd am y grefft o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid, ar faterion cymhleth weithiau sy'n anodd eu hesbonio

Pa gyngor sydd gen ti i unrhyw un sy’n ystyried sefyll mewn etholiad?

Ewch amdani! Byddwn i wrth fy modd gwneud y cyfan eto. 

Sut mae dy gyfnod fel Swyddog Llawn-amser wedi effeithio ar dy yrfa?

Ni fyddai gen i’r yrfa sydd gen i ar hyn o bryd oni bai am fy nghyfnod fel Swyddog. Datblygais angerdd am Addysg Uwch a phwysigrwydd cael hwyl yn y gwaith. Datblygais gymaint o sgiliau a llwyddais i fynegi'r profiad amhrisiadwy yr oeddwn wedi'i ennill wrth gael fy swydd gyntaf ar ôl graddio. Roeddwn yn dal i allu tynnu ar fy mhrofiad o fod yn Swyddog ar gyfer y 3 dyrchafiad rwyf wedi’u cael ers hynny. Oherwydd ei bod yn rôl mor unigryw lle mae gennych chi lawer iawn o gyfrifoldeb, pwer a dylanwad o'r cychwyn, mae'n brofiad y gallwch chi dynnu arno'n gyson. I'r rhan fwyaf o bobl, dyma eu swydd ‘go iawn’ gyntaf, ac rydych chi’n arwain elusen gymhleth, yn gosod y cyfeiriad, ac mae pobl o hyd yn gofyn eich barn - mae gan bobl ddiddordeb mawr yn yr hyn sydd gennych chi i'w ddweud! Nid yw'r math hwn o ddylanwad fel arfer yn digwydd cyn i chi ddod yn uwch reolwr. Cadarnhaodd hefyd ynof awydd i ddilyn gyrfa sy'n gwneud gwahaniaeth, i wella pethau i eraill. 

Pum gair i grynhoi'r cyfan?

Dyma gyfnod gorau fy mywyd 

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576