Llesiant

Tanaka Chikomo Llesiant

"Tanaka yw llais myfyrwyr ar gyfer llesiant a rhyddhad"

Mae ei rôl yn canolbwyntio ar sicrhau bod ein myfyrwyr mor hapus ac iach â phosib.

E-bost: llesiantum@aber.ac.uk

Fy Rôl

 

Bydd y Swyddog Llesiant yn gyfrifol am y canlynol:

  • Cynrychioli corff y myfyrwyr ar faterion sy'n perthyn i lesiant, gan gynnwys cymorth i fyfyrwyr, lles, cydraddoldeb ac amrywioldeb.
  • Cydlynu gweithgareddau ac ymgyrchoedd sy'n ymwneud â llesiant myfyrwyr.
  • Ffurfio sail ar gyfer polisïau'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr ynghylch materion sy'n ymwneud â llesiant myfyrwyr.
  • Cynorthwyo a datblygu rhwydwaith o fyfyrwyr ar faterion llesiant drwy gadeirio'r Parth Llesiant.
  • Gweithio gyda Phrif Weithredwr ac uwch dîm rheolaeth UMPA i gyflawni a ffurfio amcanion a deilliannau strategol.
  • Mynychu Pwyllgorau priodol y Brifysgol.
  • Mynychu cyfarfodydd rheolaidd ag adrannau perthnasol y Brifysgol i ddatblygu llesiant myfyrwyr ymhellach.

 

Pwyllgorau’r Brifysgol / Cyfarfodydd a Fynychwyd:

 

  • Pwyllgor Profiad Myfyrwyr
  • Aber Hygyrch
  • Hyrwyddwyr Cydraddoldeb
  • Cyfarfod Rhwydwaith Canllawiau Cyfoedion
  • Cyfarfod Cydlynwyr Anabledd yr Adran
  • Cyfarfod Grwp Strategaeth Cyffuriau ac Alcohol
  • Grwp Polisi Gweithredu Traws
  • Grwp Monitro Presenoldeb
  • Cyfarfod Prifysgol Aberystwyth Di-blastig

 


Blaenoriaethau Presennol

Mae rhestr isod o flaenoriaethau y mae Tanaka yn gweithio arnynt eleni yn ogystal â’r cynnydd mae hi wedi’i wneud hyd yma.

 

Bydd myfyrwyr Aberystwyth yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a'u cynrychioli. Byddwn yn siarad â myfyrwyr yn rheolaidd er mwyn deall yr heriau y maent yn eu hwynebu, gan sicrhau fod gennym yr wybodaeth sydd ei hangen i'w chyflwyno i'r Brifysgol ac arwain gwaith yr Undeb.

 

I’w cadarnha

Dylai Undeb y Myfyrwyr barhau i gynnal y Bwrdd Cynghori Myfyrwyr Rhyngwladol *

----------

Lleihau faint a brynir oddi wrth Amazon yn Undeb y Myfyrwyr. *

----------

Deseb Gwasanaethau Golchdy am Ddim I reswylwyr Llawn Amser*

----------

Mae * yn dynodi polisi a basiwyd yn ddemocrataidd gan fyfyrwyr Aberystwyth. Darganfod mwy

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576