Llywydd Lles a Rhyddid

Alice Leroy - Llywydd Lles a Rhyddid

"Alice yw llais myfyrwyr ar gyfer llesiant a rhyddhad"

Mae ei rôl yn canolbwyntio ar sicrhau bod ein myfyrwyr mor hapus ac iach â phosib.

E-bost: llesiantum@aber.ac.uk

 

  • Pwyllgor Profiad Myfyrwyr
  • Aber Hygyrch
  • Hyrwyddwyr Cydraddoldeb
  • Cyfarfod Rhwydwaith Canllawiau Cyfoedion
  • Cyfarfod Cydlynwyr Anabledd yr Adran
  • Cyfarfod Grwp Strategaeth Cyffuriau ac Alcohol
  • Grwp Polisi Gweithredu Traws
  • Grwp Monitro Presenoldeb
  • Cyfarfod Prifysgol Aberystwyth Di-blastig

 


Myfyrwraig ryngwladol o Ffrainc ydw’i; mudais i Aber pedair blynedd yn ôl i astudio Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol. Ers hynny, rydw i wedi graddio ac wedi gorffen fy ngradd meistr mewn Ysgrifennu Creadigol yn ddiweddar! Dwi wedi cwympo mewn cariad ag Aber a diwylliant Cymru cyn gynted ag i fi gyrraedd yma.

Goresgyn heriau sy’n fy ysgogi i. Dwi’n teimlo’n gryf tuag at ddadlau dros fyfyrwyr a hon yw’r swydd berffaith i weithio ar gefnogi eu lles.

Yn fy mywyd personol, dwi’n mwynhau mynydda, chwarae’r ffliwt a darllen.

Ffaith Ddiddorol: mae fy acen yn dipyn o gymysgedd a phrin y gall pobl ddweud fy mod i’n Ffrances i ddechrau. Gofynnwyd i fi a ydw i’n dod o Seland Newydd, yr Alban, Llundain…


Blaenoriaethau Presennol

 

Mae rhestr isod o flaenoriaethau y mae Alice yn gweithio arnynt eleni yn ogystal â’r cynnydd mae hi wedi’i wneud hyd yma.

 

Bydd myfyrwyr Aberystwyth yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a'u cynrychioli. Byddwn yn siarad â myfyrwyr yn rheolaidd er mwyn deall yr heriau y maent yn eu hwynebu, gan sicrhau fod gennym yr wybodaeth sydd ei hangen i'w chyflwyno i'r Brifysgol ac arwain gwaith yr Undeb.

 

 

Caiff profiad o’r Brifysgol effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl myfyrwyr a chaiff iechyd meddwl ei ystyried wrth gyflwyno newidiadau i’r Undeb a’r Brifysgol.

  • Siarad â myfyrwyr i ddeall yr hyn sy’n gwneud drwg i’w hiechyd meddwl yng nghyd-destun y Brifysgol.
  • Llunio Asesiad o’r Effaith ar Iechyd Meddwl gyda chymorth y gwasanaethau lles.
  • Gwneud i’r Brifysgol weithredu’r asesiad yn ôl ei phroses wneud penderfyniadau ac adolygu ei polisïau presennol

 

Cryfhau cymorth llesiant a’i welededd

  • Gwella'r broses o gyfeirio myfyrwyr at wasanaethau lles presennol ar y campws ac yn ehangach.

Rydym wedi arddel safiad o ddim goddefgarwch tuag at wahaniaethu, aflonyddu rhywiol ac ymosodiadau rhywiol.*

----------

Rydym wedi penderfynu i wrthsefyll penderfyniad Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig ar rywedd ac i ymgyrchu yn ei erbyn.*

----------

Rydym wedi ystyried ffyrdd o helpu myfyrwyr i fforddio golchi dillad.*

----------

Rydym am roi’r gorau i’r term DALlE (Du, Asiaidd a Lleiafrif Ethnig) a chyflwyno MEBE (Mwyafrif Ethnig Byd-Eang).*

----------

Blaenoriaeth gan yr Undeb - Costau Byw

----------

Mae * yn dynodi polisi a basiwyd yn ddemocrataidd gan fyfyrwyr Aberystwyth. Darganfod mwy


Bydd y Llywydd Lles a Rhyddid yn gyfrifol am y canlynol:

  • Cynrychioli corff y myfyrwyr ar faterion sy'n perthyn i lesiant, gan gynnwys cymorth i fyfyrwyr, lles, cydraddoldeb ac amrywioldeb.
  • Cydlynu gweithgareddau ac ymgyrchoedd sy'n ymwneud acirc; llesiant myfyrwyr.
  • Ffurfio sail ar gyfer polis au'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr ynghylch materion sy'n ymwneud acirc; llesiant myfyrwyr.
  • Cynorthwyo a datblygu rhwydwaith o fyfyrwyr ar faterion llesiant drwy gadeirio'r Parth Llesiant.
  • Gweithio gyda Phrif Weithredwr ac uwch d'm rheolaeth UMPA i gyflawni a ffurfio amcanion a deilliannau strategol.
  • Mynychu Pwyllgorau priodol y Brifysgol.
  • Mynychu cyfarfodydd rheolaidd ag adrannau perthnasol y Brifysgol i ddatblygu llesiant myfyrwyr ymhellach.

 

Pwyllgorau'r Brifysgol / Cyfarfodydd a Fynychwyd:

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576