Caiff profiad o’r Brifysgol effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl myfyrwyr a chaiff iechyd meddwl ei ystyried wrth gyflwyno newidiadau i’r Undeb a’r Brifysgol.

 

Alice Leroy - Llywydd Lles a Rhyddid: Blaenoriaethau

 

Caiff profiad o’r Brifysgol effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl myfyrwyr a chaiff iechyd meddwl ei ystyried wrth gyflwyno newidiadau i’r Undeb a’r Brifysgol.

  • Siarad â myfyrwyr i ddeall yr hyn sy’n gwneud drwg i’w hiechyd meddwl yng nghyd-destun y Brifysgol.
  • Llunio Asesiad o’r Effaith ar Iechyd Meddwl gyda chymorth y gwasanaethau lles.
  • Gwneud i’r Brifysgol weithredu’r asesiad yn ôl ei phroses wneud penderfyniadau ac adolygu ei polisïau presennol

Diweddariadau

 

Camau a Gymerwyd Dyddiad
Mae Alice wedi ceisio deall sut mae’r Ffurflenni Asesu Effaith presennol yn gweithio, ynghyd â sut mae cyfarwyddyd yn helpu staff i’w llenwi’n anffurfiol. Medi 2026
Cwrddodd â’r Athro Anwen Jones, Dirprwy Is-Ganghellor dros Addysg a’r Profiad Myfyriwr, a oedd i’w gweld yn frwdfrydig dros y prosiect. Gyda’i gilydd, trafodwyd sut gellid gweithredu’r asesiadau effaith yn rhan o broses wneud penderfyniadau y Brifysgol. Medi 2026
Cwrddodd â Dylan Jones, aelod o’r Adnoddau Dynol sy’n gyfrifol am Degwch, Amrywioldeb a Chynwysoldeb. Gyda’i gilydd, edrychwyd ar y ffordd orau o weithredu proses sy’n helpu y sawl sy’n gwneud penderfyniadau yn y Brifysgol i ystyried iechyd meddwl myfyrwyr. Medi 2026
Cwrdd Alice hefyd ag Ian Munton, Cyfarwyddwr Taith y Myfyriwr, i ystyried sut y gallent weithio ar y cyd wrth lunio’r ymgyrch, a sut y gallai Taith y Myfyriwr roi’r ffurflen ar brawf ddiweddarach yn y flwyddyn. Medi 2026
Ymchwiliodd i brifysgolion a wnaeth brofion Asesu’r Effaith ar Iechyd Meddwl, a bu mewn cysylltiad ag Undeb Myfyrwyr eraill yn ei gylch. Medi 2026
Cwrddodd hefyd â John Harrington, Rheolwr y Gwasanaethau Hygyrchedd a Llesiant Myfyrwyr, i ddod i nabod y tîm wrth lyw y Gwasanaethau Llesiant. Gyda’i gilydd, lluniwyd sut y gellid gweithio ar yr ymgyrch ar y cyd, a thrafodasant y dulliau mwyaf effeithiol o fynd ati. Medi 2026
   
   

Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y Blaenoriaethau hwn.

     

Alice Leroy

Llywydd Lles a Rhyddid

llesiantum@aber.ac.uk

  

 

 

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576