Blaenoriaeth gan yr Undeb
Pasiwyd gan: Y Senedd
Pasiwyd ar: 27/10/2025
Yn darfod ar: 27/10/2028
Statws: Rydym yn gweithio arno
Crynodeb
Cynhelir pleidlais dros Flaenoriaeth gan yr Undeb ar gyfarfod cyntaf y Senedd bob yn drydedd flwyddyn. Mae’r trafodaethau hyn yn adnabod y prif faterion y mae myfyrwyr yn eu hwynebu, a’r Undeb wedyn yn rhoi sylw i’r flaenoriaeth etholedig am y tair blynedd nesaf.
Cyflwynwyd gan: Undeb Aberystwyth
Diweddariadau
| Camau a Gymerwyd |
Enw a Rôl |
Dyddiad |
| Yn 2025, pleidleisiodd y Senedd dros wneud Costau Byw yn flaenoriaeth gan yr Undeb. |
Undeb Aberystwyth |
Hydref 2025 |
| Ar ôl penderfynu’r flaenoriaeth, gwnaethom ni ddiwrnod cynllunio ymgyrch i adnabod y problemau ynghlwm â’r Costau Byw sy’n cael effaith ar fyfyrwyr y gall yr Undeb weithio arnynt. Y ddau faes a ddaeth i’r amlwg oedd Trafnidiaeth a Chostau Cwrs Cudd. |
Undeb Aberystwyth |
Tachwedd 2025 |
| Gweler ein ymgyrch Trafnidiaeth yma |
Undeb Aberystwyth |
Tachwedd 2025 |
| Gweler ein ymgyrch Costau Cwrs Cudd yma |
Undeb Aberystwyth |
Tachwedd 2025 |
Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes ddiddordeb mewn dysgu mwy ynghylch y polisi hwn.