|
Mwy amdanaf i
Rwy'n dod o Lanfynydd yn wreiddiol, sef pentref bach yn y wlad ger Caerfyrddin. Symudais i Aber tair blynedd yn ôl er mwyn astudio Cymraeg, a gallaf ddweud â hyder mae dyna un o'r penderfyniadau gorau nes i. Dros y tair blynedd yma yn Aber, rwyf wedi taflu fy hun i bob elfen o UMCA, gan arwain fi i fod yn is-lywydd ar bwyllgor UMCA, llywydd pwyllgor y Geltaidd a chydlynydd a chyfeilydd ar bwyllgor Aelwyd Pantycelyn yn fy mlwyddyn olaf. Pan ddaeth y cyfle i sefyll yn etholiadau'r Undeb, roedd hi'n benderfyniad naturiol i mi ymgeisio i fod yn Llywydd UMCA.
I am motivated by...y cyfle i ddysgu pethau newydd a gweithio'n galed bob dydd er mwyn tyfu fel unigolyn. Rwy'n angerddol iawn dros y Gymraeg ac mae cael y cyfle i weithio yn fy mamiaith a roi cyfleoedd i eraill wneud yr un peth yn fy ngyrru i o hyd.
In my personal life I enjoy...canu'r piano a chanu mewn côr, neu weithiau cymysgedd o'r ddau trwy gyfeilio mewn côr. Rwyf hefyd yn byw ar fferm ac felly'n mwynhau treulio amser tu allan a gyda'r anifeiliaid pan rwyf adref.
Ffaith diddorol: Ar y fferm adref, rwyf wedi llwyddo i enwi bob un o'r gwartheg yn unigol!
|