Llywydd Cyfleoedd

Francesco Lanzi - Llywydd Cyfleoedd

"Francesco yw llais myfyrwyr ar gyfer chwaraeon, cymdeithasau a chyfleoedd gwirfoddoli"

Mae'r rôl yn rhoi sylw penodol i ddarparu myfyrwyr Aber â'r profiad gorau posib a chynnig mwy na dim ond gradd.

E-bost: cyfleoeddum@aber.ac.uk


Dwi’n dod Bassano Del Grappa, Gogledd Ddwyrain yr Eidal. Des i Aber fel myfyriwr rhyngwladol i astudio Economeg a finnau’n 17 . Dwi wedi gweithio fel llysgennad ond oherwydd na allwn ymrwymo i weithio yn yr haf, dwi wedi ei gweld hi’n anodd cael gwaith yma. Er fy mod, fodd bynnag, wedi gallu gwirfoddoli llawer, gyda phethau cyffredinol yr Undeb ee yr A-Tîm a phwyllgorau, ond hefyd gydag Ambiwlans St John, fel sylwebydd chwaraeon yn ogystal â chyd-gadeirydd ar gynghrair nofio ar y draws y Deyrnas Unedig. Dwi’n cymryd rhan yn yr Undeb erioed ac felly pan ddaeth fy nhro i, sefais i yn yr etholiadau. A wele chi nawr, yn sownd gyda fi am flwyddyn.

Fy awydd am newid neu yr awydd i adael fy ôl fy hun ryw fodd sy’n fy ngyrru i? Gwrandewch, pan fydda’ i wedi rhoi digon o drefn ar fy mywyd i wybod beth sy’n fy ysgogi i, rhoddaf i wybod i chi ond dyna’r cwbl gewch chi am y tro.

Dwi’n darllen llawer, dwi’n gwneud llawer o chwaraeon, ac dwi’n siŵr na synniff neb wrth glywed fy mod i’n gwirfoddoli LLAWER.

Ffaith Ddiddorol: A deud y gwir, es i erioed i ddiwrnod agored a dilyn fy ngreddf a mynd mewn awyren yn syth am Aber. Penderfyniad gorau fy mywyd.

 


Blaenoriaethau Presennol

 

Mae rhestr isod o flaenoriaethau y mae Francesco yn gweithio arnynt eleni yn ogystal â’r cynnydd mae e wedi’i wneud hyd yma.

 

 

Bydd myfyrwyr Aberystwyth yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a'u cynrychioli. Byddwn yn siarad â myfyrwyr yn rheolaidd er mwyn deall yr heriau y maent yn eu hwynebu, gan sicrhau fod gennym yr wybodaeth sydd ei hangen i'w chyflwyno i'r Brifysgol ac arwain gwaith yr Undeb.

 

 

Sicrhau na chynhelir yr un labordy, ymarfer a/neu asesiad ar fore Mercher fel na fydd rhwystrau i athletwyr o’r myfyrwyr sy’n teithio ar gyfer gemau oddi cartref.

  • Cysylltu â’r Brifysgol ynglŷn ag amserlennu.
  • Tynnu ar amserlenni o’r llynedd at weld ar faint o fyfyrwyr yr effeithiwyd ganddo.
  • Cysylltu â chapteiniaid bob Mercher i weld faint o fyfyrwyr na allai fynychu oherwydd yr amserlennu.
  • Cysylltu â myfyrwyr i ofyn am eu hanes.
  • Bwriadu rhoi cynnig arni yn ystod yr ail dymor.

 

Rydym yn gweithio ar ailwampio’r cyfleusterau chwaraeon.*

----------

Dylai Undeb y Myfyrwyr barhau i gynnal y Bwrdd Cynghori Myfyrwyr Rhyngwladol*

----------

Rydym yn cefnogi y gwaith i drawsnewid y Gerddi Botaneg yn ‘Gerddi Botaneg Penglais’.*

________

Blaenoriaeth gan yr Undeb*

________

Dod ag Elusen/au RAG yn ôl*

________

Mae * yn dynodi polisi a basiwyd yn ddemocrataidd gan fyfyrwyr Aberystwyth. Darganfod mwy


Bydd y Llywydd Cyfleoedd yn gyfrifol am y canlynol:

  • Cynrychioli corff y myfyrwyr ar faterion sy'n ymwneud chwaraeon, cymdeithasau, gwirfoddoli a chyflogadwyedd.
  • Cydlynu gweithgareddau ac ymgyrchoedd sy'n ymwneud chwaraeon, cymdeithasau, gwirfoddoli a chyflogadwyedd.
  • Ffurfio sail ar gyfer polisiuml'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr ynghylch materion sy'n ymwneud chwaraeon, cymdeithasau, gwirfoddoli a chyflogadwyedd.
  • Cynorthwyo a datblygu rhwydwaith o glybiau a chymdeithasau drwy gadeirio'r Parth Chwaraeon a Chymdeithasau.
  • Gweithio gyda Phrif Weithredwr ac uwch d'm rheolaeth Undeb Aberystwyth i gyflawni a ffurfio amcanion a deilliannau strategol.
  • Mynychu Pwyllgorau priodol y Brifysgol. g. Mynychu cyfarfodydd rheolaidd ag adrannau perthnasol y Brifysgol i ddatblygu buddiannau clybiau, cymdeithasau, gwirfoddoli a chyflogadwyedd.
     

Pwyllgorau'r Brifysgol / Cyfarfodydd a Fynychwyd:

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576