Dydd Mawrth 06 Mai 2025
5:30yh - 7yh
Undeb Aberywtyth Prif Ystafell UM
Dewch i ymuno â Citizens UK ar y cyd gydag Undeb Aberystwyth am Gynulliad Atebolrwydd Aberystwyth cyntaf. Bydd yn gyfle pwysig i’n cymuned ddod ynghyd i godi ein lleisiau ar faterion allweddol rydyn ni’n eu hwynebu: costau byw, tai, a thrafnidiaeth. Gweithredu sydd wrth wraidd y digwyddiad hwn – cynnig modd i bawb ddod wyneb-yn-wyneb gyda'r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, sicrhau ymrwymiadau ar gyfer newid go iawn, a’u dwyn i gyfrif i’r addewidion y maent yn eu gwneud. Cawn glywed hanesion personol gan y rheini sydd wedi’u taro gan y materion dan sylw, cyflwyno cynigion ar gyfer gwella, a meithrin perthnasoedd a fydd yn ysgogi newid yn yr hir dymor. Bydd arweinwyr lleol, gwleidyddion, a rhanddeiliaid allweddol yn mynychu – mae’n bryd sicrhau eu bod yn gwrando ac yn ymateb.
Gweithredu sydd wrth wraidd y digwyddiad hwn – cynnig modd i bawb ddod wyneb-yn-wyneb gyda'r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, sicrhau ymrwymiadau ar gyfer newid go iawn, a’u dwyn i gyfrif i’r addewidion y maent yn eu gwneud.
Cawn glywed hanesion personol gan y rheini sydd wedi’u taro gan y heriau dan sylw, cyflwyno cynigion ar gyfer gwella, a meithrin perthnasoedd a fydd yn ysgogi newid yn yr hir dymor. Bydd arweinwyr lleol, gwleidyddion, a rhanddeiliaid allweddol yn mynychu – mae’n bryd sicrhau eu bod yn gwrando ac yn ymateb.