Teulu Aber

Rydyn ni'n addo y byddwn ni'n tyfu gyda'n gilydd fel teulu Aber 

Rydyn ni am i chi gael cyfle i roi cynnig ar rywbeth newydd, mwynhau hobïau, cymdeithasu a ffurfio cyfeillgarwch ystyrlon, yn ogystal â bod yn rhan o rywbeth mwy.


Sut:

  • Perthynas â'r Undeb. Bydd myfyrwyr yn cysylltu gwirfoddoli, aelodaeth o glybiau neu gymdeithasau, arweinyddiaeth a phrofiadau o fod yn Gynrychiolydd Academaidd ag Undeb y Myfyrwyr.
  • Hyrwyddo a chefnogi grwpiau myfyrwyr i greu digwyddiadau, gweithgareddau, cyfryngau ac ymgyrchoedd, cynyddu nifer y cyfleoedd i gyfranogi, arwain a dysgu. 
  • Byddwn ni'n helpu myfyrwyr i ganfod, tyfu a dathlu eu cymunedau amrywiol
  • Bydd myfyrwyr yn chwarae rôl yng nghymuned ehangach Aberystwyth

Pam:

  • Yn yr ACF 2016, dywedodd 67% o fyfyrwyr eu bod yn fodlon â'r gwasanaethau sydd ar gael gan UMAber, ond roedd 91% yn fodlon â'r Clybiau a Chymdeithasau oedd ar gael. Mae hyn yn dangos datgysylltiad rhwng gweithgareddau a darpariaeth/cefnogaeth
  • Er bod 61% o'r myfyrwyr a holwyd yn rhan o glwb neu gymdeithas UMAber, dim ond 9% a ddisgrifiodd eu hunain fel pobl a oedd wedi llwyr ymgysylltu ag Undeb y Myfyrwyr.
  • Er bod 86% o fyfyrwyr yn teimlo ei bod yn bwysig bod Undeb y Myfyrwyr yn cynnig clybiau chwaraeon a chymdeithasau, dim ond 54% oedd yn hapus â'r detholiad sydd ar gael ar hyn o bryd.

Sut beth yw llwyddiant:

Erbyn 2020: Bydd 60% o fyfyrwyr yn perthyn i o leiaf un grwp myfyrwyr.

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576