Gwirfoddoli

Myfyrwyr yn Gwirfoddoli yn UMAber

Os ydych chi am wirfoddoli yn ystod eich amser yma yn Aberystwyth, yna dyma’r lle i chi! Un a ydych chi eisiau gwirfoddoli’n rheolaidd yn y gymuned, diwrnod gweithredu untro neu brosiect myfyriwr; nid oes diffyg cyfleoedd i chi!

Mae UMAber yn diffinio gwirfoddolwyr myfyrwyr fel unrhyw un sy’n rhoi amser o’u gwirfodd mewn rôl ddi-dâl i helpu eraill (megis myfyrwyr, neu’r gymuned), dros achos da, a/neu yr amgylchedd. Fel gwirfoddolwr, rydych chi wir yn gallu gwneud gwahaniaeth, a does dim curo’r teimlad cynnes o wybod eich bod chi wedi helpu rhywun neu rywbeth!

Gennych chi mae’r dewis o ran y fath o wirfoddoli neu’r amser rydych chi’n rhoi y tu allan o’ch astudiaethau. Ond cewch chi ddewis mwy nag un cyfle gwirfoddol. Po fwyaf rydych chi’n ei wneud, po fwyaf y buddion y byddwch chi’n eu hennill!


   
         
   

Rhesymau dros wirfoddoli

Gall gwirfoddoli roi teimlad o foddhad a gwneud gwahaniaeth yn ogystal â bod yn gyfle gwych i chi ddatblygu’n bersonol y tu hwnt i'ch astudiaethau.

Dyma’n pum prif reswm dros wirfoddoli:

  1. Gwneud gwahaniaeth i rywbeth sy'n bwysig i chi
  2. Ennill neu ddatblygu sgiliau, gwybodaeth, profiad
  3. Rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol neu wneud rhywbeth dydych chi erioed wedi'i wneud o'r blaen
  4. Gwella’ch CV a'ch cyflogadwyedd
  5. Ennill achrediad neu gydnabyddiaeth (Gwobr Aber)

Oes angen help?

  Cydlynydd Gwirfoddoli
Tom Morrissey
suvolunteering@aber.ac.uk
  Swyddog Cyfleoedd Myfyrwyr
Rachel Barwise
cyfleoeddum@aber.ac.uk

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576