Tîm-A


Gwirfoddolwch i fod yn rhan o'r Tîm A ar gyfer 2024/25!

CEISIADAU YN CAU: 01/06/2024

Myfyrwyr sy'n gwirfoddoli yw'r Tîm A sy'n croesawu myfyrwyr newydd ac yn eu helpu i ymgartrefu ym Mhrifysgol Aberystwyth dros Wythnos y Glas, yn ogystal â chynnig cymorth mewn digwyddiadau mawr eraill gydol y flwyddyn.

Rydyn ni'n chwilio am fyfyrwyr presennol sydd am rannu eu gwybodaeth a'u brwdfrydedd dros bopeth yn Aber, yn ogystal â helpu Undeb y Myfyrwyr i ddarparu gweithgareddau a digwyddiadau yn ystod Wythnos y Glas a'r tu hwnt iddi!

Mae yna ddigonedd o resymau i wirfoddoli fel rhan o’r Tîm-A:

  • Teimlo’n falch o fod wedi helpu myfyrwyr i setlo i mewn i fywyd y Brifysgol
  • Bwyd a diod am ddim yn ystod yr Wythnos Groeso ac wrth Wirfoddoli Wedi Nos
  • Crys-T Tîm-A am ddim
  • Mae’n edrych yn wych ar eich CV
  • Yswiriant Tîm Aber am ddim
  • Cewch gwrdd â myfyrwyr a staff o bob rhan o’r Brifysgol

Disgrifiad o rôl y Tîm A: Wythnos Groeso

 

  • Cwrdd â myfyrwyr a rhieni newydd (yn y dref ac ar y campws)
  • Helpu myfyrwyr i ddod o hyd i'w llety a symud i mewn iddo
  • Byddwch wrth law i ateb cwestiynau a chyfeirio myfyrwyr i lefydd ac at wasanaethau a gweithgareddau ar y campws
  • Rhowch help i rai digwyddiadau allweddol fel Ffair y Glas, Digwyddiadau Cwrdd a Chyfarch, Seremonïau Croesawu, Digwyddiadau Rhyngwladol, a llawer mwy!
  • Os yn gymwys, gyrru bws gwennol
  • Dyfodiaid Rhyngwladol o Faes Awyr Birmingham
  • Sicrhau bod myfyrwyr yn ddiogel yn y dref (tîm y nos)
  • Helpu myfyrwyr sydd ar goll, yn flinedig neu'n emosiynol (tîm y nos)
  • Gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau lleol a mudiadau partner (tîm y nos)

 

Hanfodol: Hyfforddiant ac ymrwymiad amser

 

Er mwyn i chi ddeall eich rôl a chwrdd â gweddill y tîm, rhaid i bob gwirfoddolwr fynychu hyfforddiant ddydd mawrth 17 Medi (amseroedd i'w cadarnhau).

Yn ystod y Penwythnos Croeso (20–22 Medi) byddwn ni'n gofyn i'r gwirfoddolwyr ymrwymo o leiaf 5 awr o'u hamser bob dydd i helpu gyda gweithgareddau a helpu myfyrwyr sy'n cyrraedd yn ystod y dydd neu gyda'r nos.

Yn ystod y Wythnos y Glas (23-29 Medi) byddwn ni'n gofyn i'r gwirfoddolwyr ymrwymo o leiaf 5 awr o'u hamser bob dydd i helpu myfyrwyr sy'n cyrraedd yn ystod y dydd neu gyda'r nos.

 


Y tu hwnt i Gyfnod y Glas! Cymerwch ran yn y flwyddyn o’n blaenau...

Gydol gweddill y flwyddyn, bydd modd i chi helpu gyda llu o ddigwyddiadau a gweithgareddau eraill a chewch yr wybodaeth ddiweddaraf pan fydd ar gael. Chi gaiff penderfynu faint o amser rydych chi'n ei ymroi a pha weithgareddau rydych chi'n eu dewis ar ôl Wythnos y Glas. Dewiswch y gweithgareddau sydd o ddiddordeb mwyaf i chi!

Ymhlith y cyfleoedd UM eraill i wirfoddoli mae:
Sialens Aber || Superteams || Rygbi 7s || Ail Wyl y Glas || Varsity || Gwyl Cymdeithasau


 

SUT I YMGGEISIO

Llenwch y ffurflen isod gan sicrhau eich bod chi'n cyfeirio at y fanyleb person yn y cwestiynau perthnasol. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglyn â'r Tîm A, mae croeso i chi holi. 

  Cydlynydd Gwirfoddoli
Tom - suvolunteering@aber.ac.uk


Cliciwch yma i weld y ffurflen mewn ffenestr ar wahân

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576