Gwobr Cymdeithas y Mis
Llongyfarchiadau i Tickled Pink am ennill Gwobr Cymdeithas y Mis!
Dewiswyd y grwp myfyrwyr hwn am eu bod y gymdeithas fwyaf gweithgar yn ystod Ionawr a Chwefror 2021. Enwebwyd y gymdeithas ar gyfer y wobr oherwydd eu bod wedi trefnu sawl 'Ysgol Fronnau' ar-lein, wedi codi arian, a mynd ati i ledaenu ymwybyddiaeth am gancr y fron.
Roedd yr enwebiadau'n cynnwys:
”… oherwydd yr holl waith caled maen nhw wedi'i wneud, gan ddal ati i ledaenu ymwybyddiaeth a chodi arian er gwaethaf yr amgylchiadau anodd.
”… maen nhw wedi parhau i fod yn weithgar ac wedi cynnig lle gwych i’w haelodau gadw mewn cysylltiad, gan helpu mewn cyfnod o arwahanrwydd.”
Hoffai Undeb Myfyrwyr Aberystwyth longyfarch cymdeithas Tickled Pink a dymuno'r gorau iddyn nhw yn ystod y misoedd nesaf! Daliwch ati â'r gwaith da!

Gwobr Clwb y Mis
Llongyfarchiadau i Ddawnswyr Sioe Gerdd Showdance am ennill Gwobr Clwb y Mis!
Dewiswyd y grwp myfyrwyr hwn fel y clwb mwyaf gweithgar yn ystod Ionawr a Chwefror 2021. Fe'u henwebwyd ar gyfer y wobr oherwydd eu gweithgaredd anhygoel dros y misoedd diwethaf. Mae eu grwp wedi trefnu digwyddiad 'Hen Ferched', oedd yn gyfle i aelodau cyfredol gwrdd â chyn-aelodau’r clwb, yn ogystal â gweithio ar baratoadau ar gyfer cystadleuaeth Rhyngolgampau Farsiti ar-lein 2021.
Meddai un o'r enwebwyr:
“Maent wedi darparu cyfleoedd i aelodau ddod i adnabod ei gilydd, gan gynnwys digwyddiad rhithiol yr hen ferched, lle’r oedd aelodau hyn a rhai cyfredol yn gallu cwrdd a chynnal dosbarthiadau ychwanegol gyda dawnswyr proffesiynol. Mae Showdance yng nghanol dysgu dawnsfeydd ar gyfer Farsiti (er nad ydyn nhw'n gallu cwrdd wyneb-yn wyneb!) ac maen nhw hefyd wedi gallu arddangos y dawnsfeydd a ddysgwyd ar gyfer Gwyl y Celfyddydau.”

Maen nhw wedi dal ati i ymgysylltu â’i gilydd, gan ddarparu tasgau a heriau i'w haelodau er mwyn cynnal eu hysbryd. Mae'n wych gweld grymuso o'r fath yn y mewn cyfnod o unigedd na welwyd erioed mo'i debyg.
Hoffai Undeb Myfyrwyr Aberystwyth longyfarch Dawnswyr Sioe Gerdd Showdance a dymuno'r gorau iddyn nhw yn ystod y misoedd nesaf!