Proffiliau Rolau Pwyllgor: Ysgrifennydd

Mae gan bob clwb a chymdeithas dri aelod craidd o'r pwyllgor: Llywydd, Ysgrifennydd a Thrysorydd. Yma gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth am yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn Ysgrifennydd grwp myfyrwyr…

ClubscommitteeElectionsSocietiesSportsSports ClubsTîmAberwelsh
Dim sgoriau eto. Mewngofnodi i Raddio

Mae gan bob clwb a chymdeithas dri aelod craidd o'r pwyllgor: Llywydd, Ysgrifennydd a Thrysorydd. Yma gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth am yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn Ysgrifennydd grwp myfyrwyr…

Rôl: Ysgrifennydd
Enwau amgen: Weithiau cyfunir rôl Ysgrifennydd ac Is-lywydd
Ymrwymiad / Hyd y Swydd: Swydd etholedig am hyd at un flwyddyn academaidd
Profiad blaenorol sydd ei angen: Dim o gwbl; caiff pob hyfforddiant ei ddarparu.

 

Diben y rôl

Rôl ysgrifennydd yw trefnu cyfarfodydd, digwyddiadau, a phob agwedd ar gyfathrebu sy'n ymwneud â'r gymdeithas/clwb. Chi yw'r prif gyswllt ar gyfer derbyn ac anfon manylion gweinyddol ar gyfer yr holl ddigwyddiadau o ran aelodau a mudiadau allanol. Mae hyn yn cynnwys UMAber.

 

Cyfrifoldebau cyffredin

  • Cymryd cofnodion yn yr holl gyfarfodydd, gan gynnwys y CCB
  • Cynnal cyfathrebiadau gweinyddol rhwng UMAber a’r aelodau
  • Cymryd rôl arweiniol wrth archebu ystafelloedd neu gyfleusterau
  • Goruchwylio cyfrif e-bost y clwb/cymdeithas
  • Mynychu sesiwn sefydlu ac unrhyw hyfforddiant ychwanegol a ddarperir gan yr UM.
  • Cynnal dogfennau craidd y clwb/cymdeithas a’u gwneud yn hygyrch
  • Yn achos clybiau/cymdeithasau sy'n ymaelodi â chorff allanol (e.e. Corff Llywodraethu Cenedlaethol neu elusen gysylltiedig) gallent hefyd fod y prif gyswllt rhwng y grwp a'r corff hwnnw.

 

Sut fydd hyn o fantais i chi

Dyma'ch cyfle i gyflawni rôl flaenllaw mewn Clwb neu Gymdeithas sy’n golygu llawer i chi, i helpu i'w ddatblygu i sicrhau ei fod y gorau y gall fod. Wrth wneud hyn byddwch yn cael cwrdd a gweithio gyda myfyrwyr eraill o'r un anian, yn ogystal â datblygu eich sgiliau, gwybodaeth a chyflogadwyedd cyffredinol eich hun, yn ogystal â'ch aelodau, trwy amrywiaeth o gyfleoedd.

Yn sgil bod yn aelod o'r pwyllgor, byddwch hefyd yn ennill cydnabyddiaeth am eich oriau gwirfoddoli a’ch sgiliau trwy weithio tuag at Wobr Aber. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gael eich enwebu am wobr fel rhan o'r Gwobrau Chwaraeon neu Gymdeithasau.

 

Pam rydyn ni eich eisiau CHI?

Rydyn ni am i fyfyrwyr Aber garu bywyd myfyrwyr a bod yn barod am unrhyw beth. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn addo’ch darparu â chyfleoedd i ddod o hyd i'ch Cymuned Aber, eich cynorthwyo i fod yn hapus ac yn iach, a helpu i dyfu eich sgiliau a'ch profiadau. Mae Tîm Aber yn cwmpasu cymaint o hyn, felly os ydych chi'n angerddol am eich Clwb/Cymdeithas, rydyn ni am weithio gyda chi i wireddu'r weledigaeth hon. Does dim ffordd well o wneud hyn na chael eich ethol i bwyllgor. Trwy ddod yn aelod o bwyllgor, byddwch wedi'ch ethol fel y person gorau i gyflawni'r rôl o'ch dewis.

 

Oes gennych chi unrhyw gwestiynau?

Cysylltwch ag aelod o'r Tîm Cyfleoedd:
Cydlynydd Datblygu Cymdeithasau - Tom (thm35@aber.ac.uk)
Cydlynydd Chwaraeon - Emily (ems47@aber.ac.uk)

 

Sylwch y gall cyfrifoldebau pob rôl amrywio rhwng clybiau a chymdeithasau. Gallwch weld eu cyfansoddiad unigol ar eu tudalen we, neu cysylltwch ag aelod o'r pwyllgor cyfredol.

 

Sefyll Pleidleisio
Yn agor 10am dydd Llun 15fed Mawrth tan 10am dydd Llun 19eg Ebrill Bydd y pleidleisio'n dechrau am 10am ddydd Llun 26ain Ebrill tan 3pm ddydd Gwener 30ain Ebrill

 

 

Comments

 

Dolenni defnyddiol

Elusen Gofrestredig

Undeb Myfyrwyr Aberystwyth #1150576